Joseff Gnagbo
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ers 2023 yw Joseff Gnagbo (ganed tua 1974) o Gaerdydd.[1] Sillefir ei enw hefyd fel "Joseph".
Joseff Gnagbo | |
---|---|
Joseff (ar y chwith) yn siarad yn un o ddigwyddiadau Melin Drafod | |
Ganwyd | c. 1974 |
Dinasyddiaeth | Cymru Arfordir Ifori |
Daeth Gnagbo i Gymru o'r Traeth Ifori yn 2017 fel ceisiwr lloches, yng nghanol chwyldro milwrol. Dysgodd Gymraeg yn gyflym a daeth yn diwtor Cymraeg. Daeth yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ym mis Hydref 2023.[1] Ef yw'r person cyntaf na chafodd ei eni yng Nghymru i gadeirio'r Gymdeithas.[2] Bu iddo ei ailethol yn Gadeirydd y Gymdeithas yn 2024.[3]
Cefndir
golyguGadawodd yr Arfidir Ifori yn 2011 lle roedd yn newyddiadurwr ac athro ieithoedd. Bu hefyd yn actifydd gwleidyddol ac yn ystod y gwrthdaro a ddechreuodd yn y wlad yn 2002 rhwng cefnogwyr yr Arlywydd, Laurent Gbagbo, a'i wrthwynebydd, Alassane Ouattara. Rhan o'r anghydfod oedd nad oedd Laurent Gbagbo am ildio rheolaeth ariannol y wlad i'r bloc oedd yn gefnogol i fod o dan ymbarél ariannol Ffrainc, y Communauté Financière Africaine. O dan y reolaeth yma mae tua 60% o arian y wlad o dan reolaeth Ffrainc a rhaid i'r Arfordir Ifori dalu llog. Wedi i'r gwrthryfelwyr ennill y rhyfel cartref roedd yn rhaid iddo ffoi yn 2011.[4]
Roedd yn gallu siarad nifer o ieithoedd arall - Ffrangeg, Almaeneg, Rwsieg, Saesneg, Swahili - cyn iddo gyrraedd Cymru, felly nid oedd dysgu Cymraeg yn anodd iddo. Ond mewn cyfweliad gyda phodlediad Radio YesCymru nododd nad oedd yn gallu siarad unrhyw un o ieithoedd brodorol yr Arfordir Ifori gan na ddysgwyd yr un ohonynt iddo gan ei rieni, a bod dylanwad y Ffrangeg mor gryf. Roedd ei dad yn siarad yr iaith Dida.[4] Roedd yn meddwl bod dysgu ieithoedd brodorol yn bwysig.[1] Mewn cyfweliad, dywedodd: "Rwy'n hoff iawn o sain y Gymraeg - ac un o fy hoff eiriau yw 'gwdihŵ'!" Un o'r rhesymau iddo ddysgu Cymraeg oedd oherwydd iddo weld tebygrwydd yn y sefyllfa gyda grym ieithoedd yn ei famwlad.[4]
Mae ganddo ddau o blant sy'n mynd i ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.[1]
Ymgyrchydd
golyguYn ogystal â bod yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Joseff wedi bod yn llafar ei gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Bu iddo siarad mewn cyfarfod o'r felin drafod pro-annibyniaeth, Melin Drafod yng nghynhadledd Plaid Cymru yn 2024 gan drafod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg i'r ymgyrch dros annibyniaeth ac mewn Cymru annibynnol drachefn.
Anrhydeddu
golyguYn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 cafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.[5]
Dolenni allanol
golygu- Cyfweliad Joseff Gnagbo gyda Siôn Jobbins ar bodlediad Radio YesCymru ar sianel Youtube YesCymru (2023)
- Sgwrs gyda Joseff Gnagbo ac Angharad Lewis ar bodlediad i ddysgwyr y Gymraeg, 'Pont', gan BBC Cymru (Hydref 2024)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Sarah Down-Roberts (9 Hydref 2023). "Joseff Gnagbo: 'Pwysig bod y Gymraeg ar gael i bawb'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ Liz Clements (10 Hydref 2023). "Ivory Coast asylum seeker becomes top Welsh language activist". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ "Ail dymor fel cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i Joseff Gnagbo". BBC Cymru Fyw. 5 Hydref 2024.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Joseff Gnagbo (Cyfweliad yn Gymraeg) i Radio YesCymru gan Siôn T. Jobbins. Cyfres 5, Pennod 27". Sianel Youtube Radio YesCymru. 17 Tachwedd 2023.
- ↑ Eryl Crump (20 Mai 2024). "The full list of Gorsedd honours for the 2024 National Eisteddfod". Daily Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2024.