Joseph Heller

Awdur Americanaidd

Roedd Joseph Heller (1 Mai 192312 Rhagfyr 1999) yn awdur Americanaidd. Mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau, straeon byrion a sgriptiau ffilm. Ei waith enwocaf yw'r llyfr Catch-22.[1]

Joseph Heller
Ganwyd1 Mai 1923 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd, Coney Island Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 1999, 10 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
East Hampton Edit this on Wikidata
Man preswylBrooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethllenor, sgriptiwr, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr, rhyddieithwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Pennsylvania
  • Prifysgol Talaith Pennsylvania Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCatch-22, God Knows, No Laughing Matter, Picture This, Closing Time, Portrait of an Artist, as an Old Man, Now and Then, Something Happened, Good as Gold Edit this on Wikidata
Arddulldychan, comedi ddu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Ysgoloriaethau Fulbright Edit this on Wikidata
llofnod

Cefndir

golygu

Ganwyd Heller yn Coney Island, Brooklyn, Efrog Newydd yn blentyn i Isaac Donald Heller a Leena ei wraig. Roedd ei rieni yn Iddewon tlawd a mewnfudodd o Rwsia. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Abraham Lincoln, gan ymadael a'r ysgol ym 1941.[2]

Ar ôl gadael yr ysgol symudodd Heller o swydd i swydd. Rhoddodd gais ar fod yn brentis gof, yn gariwr negeseuon ac yn glerc swyddfa. Ymunodd yr Unol Daleithiau a'r Ail Ryfel Byd wedi'r ymosodiad ar Perl Harbor ar 7 Rhagfyr 1941. Ymunodd Heller a Chorfflu Awyr Byddin yr UD ym 1942. Hedfanodd mewn 60 o gyrchau ar y ffrynt Eidalaidd.[3]

Ar ôl i'r rhyfel darfod aeth Heller i'r brifysgol o dan gynllun i gyn milwyr bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol De California cyn trosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd gan raddio mewn Saesneg ym 1948. Ym 1949 graddiodd gyda MA yn Saesneg o Brifysgol Columbia. O Columbia aeth i Goleg y Santes Catrin, Rhydychen lle wariodd blwyddyn yn astudio o dan Ysgoloriaeth Fulbright.[4] Ym 1950 cafodd ei benodi yn athro ym Mhrifysgol Pennsylvania State gan aros yna hyd 1952. Wedyn bu'n gweithio fel ysgrifennwr copi hysbysebu ar gyfer y cwmni cyhoeddi Time Inc (1952-56) a'r cylchgrawn Look (1956-58) ac yna fel rheolwr hyrwyddo cwmni McCall’s (1958-61).

Dychwelodd i ddysgu yn y 1970au wedi iddo ennill enw da fel awdur. Bu'n dysgu fel Athro ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgolion Yale, Pennsylvania a City Collage, Efrog Newydd.

Gyrfa lenyddol

golygu

Gwaith gyntaf Heller i gael ei gyhoeddi oedd stori fer a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn The Atlantic ym 1948. Dechreuodd ysgrifennu ei lyfr enwocaf Catch-22 ym 1953. Cafodd y bennod gyntaf ei gyhoeddi ym 1955 (fel Catch-18) yng Nghylchgrawn New World Writing. Wedi i tua threian o'r llyfr cael ei hysgrifennu fe'i cyflwynwyd i gwmni cyhoeddi Simon & Schustler. Rhoddodd y cwmni blaendal o $750 am yr hawl i gyhoeddi iddo gydag addewid o $750 arall wedi darfod y gwaith. Cymerodd Heller wyth mlynedd i gyflawni'r gwaith a chyhoeddwyd y llyfr ym 1961.[5] Ysgrifennodd pum nofel arall ar ôl Catch-22, er i bob un ohonynt werthu'n dda ni chafodd cystal llwyddiant eto a chafodd efo'i nofel gyntaf.[6]

Yn ogystal ag ysgrifennu straeon byrion a nofelau bu Heller hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu. Ei sgript ffilm gyntaf oedd addasiad i'r sgrin fawr o nofel Helen Gurley Brown Sex and the Single Girl ac ysgrifennodd penodau ar gyfer y gyfres comedi Americanaidd McHale's Navy. Ym 1967 cyhoeddodd drama lwyfan a oedd yn wrthwynebus i Ryfel Fietnam We Bombed in New Haven a berfformiwyd ar Broadway gyda Jason Robards yn serennu.

Priododd Shirley Held ym 1945 a chawsant fab a merch. Wedi ysgaru a'i wraig gyntaf ym 1984 priododd a Valerie Humphries ym 1987.

Marwolaeth

golygu

Bu farw o drawiad y galon yn ei gartref yn Long Island yn 76 mlwydd oed [7] ychydig ar ôl darfod ei nofel olaf Portrait of the Artist as an Old Man.

Geler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth Joseph Heller

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fried, Lewis. "Heller, Joseph." Encyclopaedia Judaica, edited by Michael Berenbaum and Fred Skolnik, 2nd ed., vol. 8, Macmillan Reference USA, 2007, p. 795. Gale eBooks. Adalwyd 18 Ionawr. 2020.
  2. "Joseph Heller Biography". www.cliffsnotes.com. Cyrchwyd 2020-01-19.
  3. "Joseph Heller | American author". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-01-19.
  4. "Joseph Heller Biography - childhood, death, school, book, old, information, born, college, time, year". www.notablebiographies.com. Cyrchwyd 2020-01-19.
  5. "Joseph Heller". www.penguin.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-19.
  6. Tanniru, Joseph. "A brief tribute to Joseph Heller, author of Catch-22". www.wsws.org. Cyrchwyd 2020-01-19.
  7. "Joseph Heller, Author of 'Catch-22,' Dies at 76". archive.nytimes.com. Cyrchwyd 2020-01-19.