Joseph Seth Jones
Un o'r Gymry a fudodd i Batagonia ar long y Mimosa oedd Joseph Seth Jones (1845–1912).[1] Roedd yn ugain mlwydd oed ac yn gweithio fel argraffydd i Gwasg Gee pan ffarweliodd â Chymru. Mae'n enw adnabyddus gan iddo gadw cofnod o'r daith drwy ddull dyddiadur.
Joseph Seth Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1845 Llanfair Talhaearn |
Bu farw | 1912 Sir y Fflint |
Man preswyl | Patagonia |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | dyddiadurwr, clerc, ceidwad goleudy |
Cefndir
golyguGanwyd Joseph Seth Jones ym Mhenanner, plwyf Llanfair Talhaearn. Ef oedd y ieuengaf ond un o wyth o blant Charles a Jane Jones. Mynychoch ysgol Nantglyn cyn iddo orfod symud i ysgol Llanfair Talhaearn. Ar ôl gadael yr ysgol yn bedwar ar ddeg mlwydd oed, dechreuodd Joseph Seth Jones brentisiaeth gyda'r Visitor Office, sef argraffdy Robert Jones, Abergele. Ond gadawodd y swydd honno oherwydd "amgylchiadau yn y swyddfa" chwe mis cyn gorffen ei brentisiaeth. Ar ôl hyn, fe ddechreuodd ar ei swydd llawn amser fel argraffydd i Wasg Gee, Dinbych.
Gadael Cymru
golyguNid yw'n eglur pam benderfynodd Joseph Seth Jones ymfudo. Credir ambell un iddo gael ei ysbrydoli ar ôl gweld hysbyseb a ymddangosodd yn rhifyn 8 Ebrill o Yr Herald Cymraeg, yn gofyn am '12 o fechgyn ieuanc, cynefin a gwaith, ac o gymeriad da' a'r cynnig o 'drefn esmwyth i ad-dalu' costau'r daith. Gwrthododd Gwasg Gee ei ymddiswyddiad yn wreiddiol, ond gadel ei swydd y gwnaeth yn y pen draw er mwyn hwylio o ddociau Lerpwl.
Dyddiadur
golyguYsgrifennodd Joseph Seth Jones ei ddyddiadur rhwng y cyfnodau 19-26 Ebrill 1865, 25 Mai - 27 Gorffennaf 1865 a 14-21 Mawrth 1866. Yn ei nodiadau mae'n son am y diwrnodau oedd yn arwain at gychwyn y fordaith ar Fai 28, yn ogystal â'i gyfnod ar fwrdd y Mimosa.
Llythyrau
golyguYn ogystal ag ysgrifennai ei ddyddiadur, ysgrifennodd Joseph Seth Jones gasgliad o lythyron Archifwyd 2014-12-21 yn y Peiriant Wayback.
Llyfryddiaeth
golygu- Elvey MacDonald (2002) Dyddiadur Mimosa - Joseph Seth Jones
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiadur Joseph Seth Jones,. Llyfrgell Cenedlaethol. Adalwyd ar 15 Mai 2016.