Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru sy'n chwarae ar yr asgell i glwb Worcester Warriors yn Lloegr yw Josh Adams (ganwyd 12 Ebrill 1995).

Josh Adams
Ganwyd12 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau94 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Magwyd Adams yn yr Hendy, ger Llanelli.[1] Cafodd Adams ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun y Strade a gyda Llanelli y dechreuodd ei yrfa rygbi, gan chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Pontypridd yn 2013. Aeth yn ei flaen i chwarae cyfanswm o 30 o gemau o'r clwb a sgorio 9 o geisiau.[2] Chwaraeodd ei unig gêm i'r Sgarlets pan trechwyd hwy gan ranbarth Gleision Caerdydd yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2014.[3] Chwaraeodd hefyd i dîm Dan-20 Cymru.[4]

Ym Mai 2014, cafodd ei gyhoeddi y byddai Adams yn symud i Gaerwrangon at glwb y Warriors.[5] Cafodd ei roi ar fenthyg i glwb Cinderford hyd at ddiwedd tymor 2015–16.[6]

Gyrfa ryngwladol

golygu

Ar 22 Rhagfyr 2017, sgoriodd Adams ddau gais mewn buddugoliaeth o 23–8 yn erbyn Gwyddelod Llundain, ac ef oedd wedi sgorio'r mwyaf o geisiau yn yr Uwch-gynghrair ar ddiwedd Rhagfyr 2017.[7]

Yn Ionawr 2018, cafodd ei alw i fod yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2018,[8] a chafodd ei enwi yn y tîm a fyddai'n dechrau'r gêm agoriadol yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.[9]

Ar 23 Chwefror 2019, Adams wnaeth selio'r fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Lloegr yn Stadlwm Principality ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Daliodd Adams gic ar draws y cae gan ei gyd-chwaraewr Dan Biggar a'i thirio i roi Cymru ar y blaen o 21 i 13.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Josh Adams reveals Wales call left him a wreck as he stands on brink of coveted awards (en) , WalesOnline, 2 Mai 2018. Cyrchwyd ar 23 Chwefror 2019.
  2. "Proffil Chwaraewr Clwb Rygbi Llanelli". Llanelli RFC. 14 Mawrth 2016. Cyrchwyd 14 March 2016.
  3. "Capital city clash a learning curve for young Scarlets". Scarlets. 14 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-08. Cyrchwyd 14 Mawrth 2016.
  4. "Proffil Chwaraewr Dan-20 Cymru". Welsh Rugby Union. 14 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-03. Cyrchwyd 14 March 2016.
  5. "Wales U20 wing Josh Adams to join Worcester". BBC Sport. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 14 Mawrth 2016.
  6. "Warriors youngsters go out on loan". Worcester Warriors. 5 Chwefror 2016. Cyrchwyd 14 Mawrth 2016.[dolen farw]
  7. "Premiership: Worcester Warriors 23-8 London Irish". BBC Sport. 22 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2017.
  8. "Six Nations 2018: Wales name James Davies and Josh Adams in squad". BBC Sport. 16 Ionawr 2018. Cyrchwyd 16 Ionawr 2018.
  9. "Six Nations 2018: Josh Adams to make Wales debut v Scotland; Rhys Patchell starts". BBC Sport. 30 Ionawr 2018. Cyrchwyd 31 January 2018.
  10. "Wales 21-13 England: Hosts fight back to seal record-breaking win in Cardiff". BBC Sport. 23 Chwefror 2019. Cyrchwyd 23 February 2019.