Juan Antonio Flecha
Seiclwr proffesiynol Sbaenaidd a aned yn yr Ariannin ydy Juan Antonio Flecha Giannoni (ganed 17 Medi 1977), ar hyn y bryd mae'n reidio dros Team Sky.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Juan Antonio Flecha Giannoni |
Llysenw | The Spanish Flandrian Van der Flecha Jan Anton Pijl |
Dyddiad geni | 17 Medi 1977 |
Taldra | 1.81 m (5' 11") |
Pwysau | 72 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Arbennigwr y clasurom |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2004–2005 2006–2009 2010– |
Fassa Bortolo Rabobank Team Sky |
Golygwyd ddiwethaf ar 17 Gorffennaf 2011 |
Gyrfa
golyguGaned yn Junín, Buenos Aires. Daeth Flecha yn adnabyddus yn 2003, pan ddaeth y reidiwr cyntaf i gael ei eni yn yr Ariannin i ennill cymal o'r Tour de France. Roedd yn reidio dros iBanesto.com ar y pryd. Wrth iddo groesi'r linell, fe feimiodd sethu saeth o fwa fel saliwt buddugoliaeth, gan mai ystyr ei enw deuluol, Flecha, yw "saeth".
Bu'n gyd-arweinydd y tîm Eidalaidd Fassa Bortolo ar gyfer y rasus un dydd a'r clasuron yn nhymor 2004, gan orffen mewn safleoedd da. Yn enwedig yn y Ronde van Vlaanderen, Paris–Roubaix a'r Liège–Bastogne–Liège, ac ennill y Züri-Metzgete a'r Giro del Lazio. Bu'n aml yn rhannu'r gwaith o arwain y tîm gyda'r reisiwr o'r Swistir, Fabian Cancellara.
Yn 2005, gorffennodd ar y podiwn yn Gent–Wevelgem a Paris–Roubaix, gan sefydlu enw i'w hun fel un o'r reidwyr gorau yn yr UCI ProTour heddiw. Mewn cyfweliad, dywedodd reidiwr dros Euskaltel-Euskadi, Egoi Martínez, mewn teyrnged i ddyfalbarhad ac agwedd Flecha, y dylai un gael pen ac agwedd fel Flecha mewn ras.
Symudodd Flecha i'r tîm Iseldiraidd Rabobank yn 2006, wedi i dîm Fassa Bortolo ddod i ben. Yn 2007, gorffennodd Flecha yn ail yn ras o fri y Paris–Roubaix. Ni gafodd unrhyw fuddugoliaethau yn ystod tymor 2009, felly gwrthododd Flecha arwyddo cytundeb newydd gyda Rabobank, gan deimlo ei fod yn hen bryd iddo gael sialens newydd.
Mae wedi redio dros Team Sky ers ei sefydliad yn 2010. Enillodd ei ras un dydd cyntaf y flwyddyn honno, yr Omloop Het Nieuwsblad, a cysegrodd y fuddugoliaeth iw dîm a'i gyn cyd-aelod tîm Frank Vandenbroucke a fu farw yn Hydref 2009. Yng nghymal 9 Tour de France 2011, bu Flecha mewn damwain wedi iddo a Johnny Hoogerland gael eu trywanu gan gar France Télévisions. Cododd ar ei draed a parhaodd i reidio wrth iddo dderbyn triniaeth iw benelin. Rhannodd wobr brwydrol y cymal hwnnw gyda Hoogerland.[1] Gwrthododd Flecha fynd ar y podiwm i dderbyn y wobr ond fe wisgodd y rhif coch y diwrnod canlynol.
Palmarès
golygu- 2003
- 1af Cymal 11 Tour de France
- 2004
- 1af Züri-Metzgete
- 1af Giro del Lazio
- 7fed Gent–Wevelgem
- 2005
- 1af Stage 4 Volta a la Comunitat Valenciana
- 2il Gent–Wevelgem
- 3ydd Paris–Roubaix
- 9fed HEW Cyclassics
- 2006
- 2il GP Ouest-France
- 4ydd Paris–Roubaix
- 7fed Eneco Tour
- 2007
- 2il Paris–Roubaix
- 2008
- 1af Circuit Franco-Belge
- 2il Cymal 4
- 3ydd Ronde van Vlaanderen
- 2009
- 3ydd Omloop Het Nieuwsblad
- 6ed Paris–Roubaix
- 2010
- 1af Omloop Het Nieuwsblad
- 3ydd E3 Prijs Vlaanderen
- 3ydd Paris–Roubaix
- Tour de France
- 2011
- 2il Omloop Het Nieuwsblad
- 9fed Paris–Roubaix
- Tour de France
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Julien Pretot (10 Gorffennaf 2011). Tour riders outraged after ‘reckless driving’ leads to crash. National Post.
Dolenni allanol
golygu- Profile on Rabobank official website Archifwyd 2008-06-02 yn y Peiriant Wayback