Tour de France 2003
Tour de France 2003 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 5 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue ym Mharis, a theithio'n glocwedd o amgylch Ffrainc cyn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 27 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,427.5 km (2129.75 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Dechreuwyd | 5 Gorffennaf 2003 |
Daeth i ben | 27 Gorffennaf 2003 |
Rhagflaenwyd gan | 2002 Tour de France |
Olynwyd gan | Tour de France 2004 |
Yn cynnwys | 2003 Tour de France, prologue, 2003 Tour de France, Stage 1, 2003 Tour de France, Stage 2, 2003 Tour de France, Stage 3, 2003 Tour de France, Stage 4, 2003 Tour de France, Stage 5, 2003 Tour de France, Stage 6, 2003 Tour de France, Stage 7, 2003 Tour de France, Stage 8, 2003 Tour de France, Stage 9, 2003 Tour de France, Stage 10, 2003 Tour de France, Stage 11, 2003 Tour de France, Stage 12, 2003 Tour de France, Stage 13, 2003 Tour de France, Stage 14, 2003 Tour de France, Stage 15, 2003 Tour de France, Stage 16, 2003 Tour de France, Stage 17, 2003 Tour de France, Stage 18, 2003 Tour de France, Stage 19, 2003 Tour de France, Stage 20 |
Gwefan | http://www.letour.com/HISTO/TDF/2003/us/annee.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn wahanol i'r arfer, ni ymwelodd y ras â unrhyw wledydd eraill, gan ail-greu rhan helaeth o lwybr cyntaf y ras a gystadlwyd canrif yn ddiweddarach ym 1903. Roedd gwobr arbennig, y Centenaire Classement ar gyfer y reidiwr gorau dros y chwe cymal â'u gorffen yn cyfateb i Tour 1903 - Lyon, Marseille, Toulouse, Bordeaux, Nantes a Pharis. Enillwyd gan Stuart O'Grady, gyda Thor Hushovd yn ail. Derbyniodd Tour de France 2003 hefyd Wobr Tywysog Asturias am Chwaraeon.
Y ffefryn o'r 198 reidiwr a oed yn cystadlu, oedd Lance Armstrong, a oedd yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth a fuasai'n gyfartal gyda'r record ar gyfer y ras. Credwyd mai ei brif wrthwynebwyr yn y ras fyddai Iban Mayo, Aitor González, Tyler Hamilton, Ivan Basso, Gilberto Simoni, Jan Ullrich, a Joseba Beloki. Er iddo fynd ymlaen i ennill y ras, yn ystadegol, ac o'i gyfaddefiad ei hun, dyma oedd perfformiad gwanaf Armstrong dros y saith mlynedd yr enillodd y ras.[2]
Timau
golygu- US Postal
- ONCE-Eroski
- Team Telekom
- iBanesto.com
- Rabobank
- Saeco Macchine per Caffè
- Cofidis
- Team CSC
- Fassa Bortolo
- FDJeux.com
- Kelme-Costa Blanca
- Quick Step-Davitamon
- Crédit Agricole
- Bianchi
- Lotto-Domo
- AG2R Prévoyance
- Vini Caldirola-So.di
- Euskaltel-Euskadi
- Brioches La Boulangère
- Gerolsteiner
- Alessio
- Jean Delatour
Trawsolwg
golyguCystadlwyd y Tour yn fwy brwydrol na'r blynyddoedd cynt, ond Armstrong oedd yn fuddugol unwaith eto. Bu Tyler Hamilton a Levi Leipheimer mewn damwain yn duan yn y Tour, gan arwain at Leipheimer i dynnu allan o'r ras, parhaodd Hamilton a gorffennodd yn bedwerydd ond yn reidio gyda pont ei ysgwydd wedi torri.
Yn yr Alpau, ni allai Gilberto Simoni na Stefano Garzelli, a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y Giro d'Italia yn gynharach yr un flwyddyn, gadw fyny gyda Lance Armstrong a'r ffefrynnau eraill. Roedd yr un peth yn wir am Santiago Botero a orffennodd yn benwerydd y flwyddyn gynt. Llwyddodd Joseba Beloki i gadw fyny, ac roedd yn yr ail safle'n gyffredinol (40 eiliad tu ôl i Armstrong) pan gafodd ddamwain wrth fynd lawr allt cyflym. Achoswyd y ddamwain gan fod ei frêc wedi cloi fyny, oherwydd fod y tar ar y ffordd yn toddi yn y gwres felly roedd diffyg ffrithiant gyda'r ffordd a daeth ei deiar oddiar ymyl yr olwyn.[3] Torrodd Beloki asgwrn dde ei forddwyd, ei benelin a'i arddwrn, a bu'n raid iddo adael y Tour.[4] Cymerodd Armstrong dargyfeiriad drwy gae ger y ffordd er mwyn osgoi taro Beloki ar y ffordd. Roedd Armstrong yn dal gafael ar y crys melyn, ond enillodd Jan Ullrich y treial amser cyntaf o 1 munud a 36 eiliad. Roedd ef ac Alexander Vinokourov o fewn cyrraedd i Armstrong ar y brig.
Mi lwyddodd Armstrong i amddiffyn ei hun yn erbyn yr ymosodiadau, gan gipio ei bumed fuddugoliaeth Tour de France yn ganlynol, ac felly dod yn gyfartal gyda record Jacques Anquetil, Eddy Merckx, Bernard Hinault a Miguel Indurain am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau. Cyn Armstrong, dim ond Indurain oedd wedi ennill pump yn ganlynol. Cyn 2003, doedd Lance Armstrong erisoed wedi ennill y Tour o lai na chwech munud.
Cymalau
golyguCymal | Dyddiad | Dechrau – Gorffen | Math | Pellter | Enillydd |
---|---|---|---|---|---|
P | 5 Gorffennaf | Paris | Treial amser unigol | 6.5 km | Bradley McGee |
1 | 6 Gorffennaf | Saint-Denis – Meaux | Cymal gwastad | 168.0 km | Alessandro Petacchi |
2 | 7 Gorffennaf | La Ferté-sous-Jouarre – Sedan | Cymal gwastad | 204.5 km | Baden Cooke |
3 | 8 Gorffennaf | Charleville-Mézières – Saint-Dizier | Cymal gwastad | 167.5 km | Alessandro Petacchi |
4 | 9 Gorffennaf | Joinville – Saint-Dizier | Treial amser tîm | 69.0 km | US Postal |
5 | 10 Gorffennaf | Troyes – Nevers | Cymal gwastad | 196.5 km | Alessandro Petacchi |
6 | 11 Gorffennaf | Nevers – Lyon | Cymal gwastad | 230.0 km | Alessandro Petacchi |
7 | 12 Gorffennaf | Lyon – Morzine | Cymal mynyddig | 230.5 km | Richard Virenque |
8 | 13 Gorffennaf | Sallanches – Alpe d'Huez | Cymal mynyddig | 219.0 km | Iban Mayo |
9 | 14 Gorffennaf | Le Bourg-d'Oisans – Gap | Cymal mynyddig | 184.5 km | Alexandre Vinokourov |
10 | 15 Gorffennaf | Gap – Marseille | Cymal gwastad | 219.5 km | Jakob Piil |
11 | 17 Gorffennaf | Narbonne – Toulouse | Cymal gwastad | 153.5 km | Juan Antonio Flecha |
12 | 18 Gorffennaf | Gaillac – Cap Découverte | Treial amser unigol | 47.0 km | Jan Ullrich |
13 | 19 Gorffennaf | Toulouse – Ax 3 Domaines | Cymal mynyddig | 197.5 km | Carlos Sastre |
14 | 20 Gorffennaf | Saint-Girons – Loudenvielle | Cymal mynyddig | 191.5 km | Gilberto Simoni |
15 | 21 Gorffennaf | Bagnères-de-Bigorre – Luz Ardiden | Cymal mynyddig | 159.5 km | Lance Armstrong |
16 | 23 Gorffennaf | Pau – Bayonne | Cymal mynyddig | 197.5 km | Tyler Hamilton |
17 | 24 Gorffennaf | Dax – Bordeaux | Cymal gwastad | 181.0 km | Servais Knaven |
18 | 25 Gorffennaf | Bordeaux – Saint-Maixent-l'École | Cymal gwastad | 203.5 km | Pablo Lastras |
19 | 26 Gorffennaf | Pornic – Nantes | Treial amser unigol | 49.0 km | David Millar |
20 | 27 Gorffennaf | Ville-d'Avray – Paris (Champs-Élysées) | Cymal gwastad | 152.0 km | Jean-Patrick Nazon |
Arweinwyr y dosbarthiadau
golyguNodiadau
golyguPan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn). Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
- Yng nghymal 1, gwisgodd David Millar y crys gwyrdd.
- Yng nghymal 8, gwisgodd Rolf Aldag y crys dot polca.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Ffrangeg) Jacques Augendre (2009). Guide Historique (PDF). Amaury Sport Organisation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2009. Adalwyd ar 30 Medi 2009.
- ↑ (Saesneg) Maillot jaune Lance Armstrong speaks, July 24, 2004. Cycling News (24 Gorffennaf 2004). Adalwyd ar 12 Awst 2009.
- ↑ Samuel Abt. "Effects of a Crash Landing Are Still Hampering Beloki", 30 Mai 2004.
- ↑ (Saesneg) Chris Henry (17 Tachwedd 2003). Change and challenge for Joseba Beloki. Cycling News. Adalwyd ar 23 Awst 2011.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Tour de France (ar gael yn Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg neu Sbaeneg)
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol