Fabian Cancellara
Seiclwr proffesiynol o'r Swistir ydy Fabian Cancellara (ganed 18 Mawrth 1981). Mae'n arbennigo mewn treialon amser, ac mae'n wedi bod yn Bencampwr y Byd bedair gwaith yn y ddisgyblaeth honno, ac yn Bencampwr Cenedlaethol Treial Amser saith gwaith. Enillodd hefyd fedal aur Treial amser dynion Gemau Olympaidd yr Haf 2008. Mae hefyd wedi ennill y Ronde van Vlanderen, Paris–Roubaix (dwywaith), Milan – San Remo, Tirreno–Adriatico, Tour de Suisse, Strade Bianche (dwywaith), a phum prologue o'r Tour de France.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Fabian Cancellara |
Llysenw | Spartacus |
Dyddiad geni | 18 Mawrth 1981 |
Taldra | 1.86 m |
Pwysau | 82 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treial amser |
Golygwyd ddiwethaf ar 2 Gorffennaf 2012 |
Gyrfa
golyguBlynyddoaedd cynnar
golyguGaned Cancellara yn Wohlen bei Bern, ger Bern, y Swistir. Mae ei fam yn Eidalaidd a'i dad yn Swis-Almaenaidd. Dechreuodd seiclo wedi disgyn mewn cariad gyda hen feic a ganfododd yn y garej, gan roi'r gorau i chwarae pêl-droed er mwyn canolbwyntio ar seiclo.[1]
Canlyniadau
golygu- 2012
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser
- 1af Strade Bianche
- 1af Prologue Tour de France
- 1af Cymal 7 (treial amser) Tirreno–Adriatico
- 2il Milan – San Remo
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu