Pibau Cymreig

(Ailgyfeiriad o Pib)

Offerynnau cerdd yw'r pibau Cymreig. Ceir sawl math, e.e. pibgorn, côd-biban, pibgod, pibgwd, pibau cyrn, pibau cwd, bacbib, pibau gwynt.

Antwn Owen Hicks a Gafin Morgan yn chwarae pibau Cymreig yng ngŵyl An Oriant, Awst 2008

Ceir tystiolaeth am bibau gwynt yng Nghymru o'r 10g ymlaen, ond bu i'r traddodiad farw erbyn diwedd y 19g oherywdd newid mewn ffasiwn a chwaeth cerddorol a dylanwad y mudiad Methodistaidd a filwriodd, ar y cychwyn, yn erbyn cerddoriaeth 'werin' am resymau crefyddol. Erbyn hyn, dim ond un enghraifft o bibau gwynt Cymreig a geir, a hynny yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Serch hynny, cafwyd adfywiad mewn diddordeb mewn canu'r pibau ers yr 1980au.

Dolenni golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato