Gwleidydd, hanesydd a chyn-Arlywydd Catalwnia yw'r Dr Oriol Junqueras i Vies (Ynganiad Catalanaidd: Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:IPA/data' not found.; ganwyd 11 Ebrill 1969).[1] Ef oedd Is-Lywydd Generalitat de Catalunya rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017. Bu'n faer Sant Vicenç dels Horts ac yn llywydd y blaid Esquerra Republicana de Catalunya, ERC ers 17 Medi 2011.

Oriol Junqueras
FfugenwEl Mossèn Edit this on Wikidata
GanwydOriol Junqueras i Vies Edit this on Wikidata
11 Ebrill 1969 Edit this on Wikidata
Sant Andreu de Palomar Edit this on Wikidata
Man preswylSant Vicenç dels Horts, Sant Andreu de Palomar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
  • Prifysgol Barcelona Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Antonio Simón Tarrés Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, hanesydd, academydd, ysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
SwyddCadeirydd y Chwith Weriniaethol Catalwnia, Arweinydd yr Wrthblaid yng Nghatalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Cynghorydd ar Gyngor Reus, Maer Sant Vicenç dels Horts, Is-Lywydd Catalwnia, Y Gweinidog dros yr Economi a Chyllid, Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Vic
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolEsquerra Republicana de Catalunya Edit this on Wikidata
PriodNeus Bramona Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.junqueras.cat Edit this on Wikidata
llofnod

Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 sefydlodd Junts pel Sí ('Ie gyda'n Gilydd') a enillodd 62 o seddi allan o 135 yn Llywodraeth Catalwnia.[2]

Addysg a gwaith cynnar golygu

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ysgol Eidalaidd ym Marcelona cyn astudio economeg ym Mhrifysgol Barcelona, a graddio mewn Hanes cynnar a modern ac yna Doethuriaeth mewn Hanes y Meddylfryd Economeg gan ganolbwyntio o'r 17g i'r cyfnod modern.[3]

Mae'n ddarlithydd rhan amser ym Mhrifysgol Ymreolaethol Barcelona ac wedi cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu ar hanes a gwleidyddiaeth ee En Guàrdia ac El nas de Cleòpatra, ar Radio Catalwnia, Minoría absoluta ac El Món ar RAC 1 ac El favorit (2005) ar TV3; gweithiodd hefyd fel ymgynghorydd rhaglenni dogfen, teledu megis Els Maquis, La guerra silenciada a Conviure amb el risc.

Carcharu golygu

Ar 2 Tachwedd 2017, yn dilyn Datganiad o Annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia, fe'i carcharwyd gan Lys Cenedlaethol Sbaen, ynghyd ag aelodau eraill o'r Llywodraeth, oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth Catalwnia.

Sefydlodd glymblaid Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) i ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017, gan wneud hynny o'r carchar. Enillodd ei blaid 6 sedd ychwanegol gan ddod yr ail blaid mwyaf: cyfanswm o 26 sedd.

Yng Ngorfennaf 2018 symudwyd Junqueras i garchar Lledoners, Catalwnia. Cafwyd sawl protest yn erbyn ei garchariad o flaen drysau'r carchar. Yn rhagfyr 2018, cyoeddodd y International Association of Democratic Lawyers ddatganiad y dylid ei ryddhau (a'r gwleidyddion eraill a garcharwyd) ar unwaith.[4] Ar 1 Chwefror 2019, trosglwyddwyd ef i garchar ym Madrid, yn barod ar gyfer achos llys yn ei erbyn.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Disposición 12327 del BOE; consulta=28 10 2017; llengua=castellà; gol: Gobierno de España; 27 Hydref 2017
  2. Minder, Raphael (2015-09-27). "Separatists in Catalonia Win Narrow Majority in Regional Elections". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2016-01-15.
  3. "Oriol Junqueras (biography from official website)" (yn Catalan). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-15. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "IADL calls for release of Catalan political prisoners". International Association of Democratic Lawyers. 3 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 30 December 2018.
  5. Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-02.