Pengam (aderyn)

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Jynx torquilla)
Pengam
Jynx torquilla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Jynx[*]
Rhywogaeth: Jynx torquilla
Enw deuenwol
Jynx torquilla
Rhywogaethau

J. torquilla
J. ruficollis

Dosbarthiad y rhywogaeth
Erthygl ar yr aderyn yw hon; ceir erthygl arall ar y pentref o'r un enw ym mwrdeisdref sirol Caerffili.

Rhywogaeth o adar yw'r Pengam (lluosog: Pengeimion) sydd hefyd yn perthyn i genws o'r un enw. Yr enw Lladin ar y rhywogaeth yw Jynx torquilla, ac Jynx yw enw'r genws, sy'n tarddu o'r Hen Roeg iunx, sef y Pengam Ewrasaidd.[1] Ceir rhywogaeth arall o fewn y genws, sef y Pengam gyddfgoch (Jynx ruficollis). Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn J. torquilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[3]

Fel y gwir gnocell, mae gan y Pengam ben mawr a thafod hir a ddefnyddir i dynnu'r pryf o'r pren, yn fwyd. Mae ganddo hefyd ddau fawd troed, sy'n wynebu ymlaen a dau tuag yn ôl. Ond yn wahanol i'r wir gnocell, nid oes ganddo blu caled yn gynffon, plu caled a ddefnyddir gan y gnocell i ddringo coed; oherwydd hyn, fe'i gwelir yn aml yn eistedd ar y gangen yn hytrach nag yn glynnu i fonyn, neu ochr y goeden. Mae ei big hefyd yn fyrach, ac yn llai tebyg i gyllell fain, hir.

Morgrug yw ei brif fwyd, a phryfaid eraill a ganfyddant mewn hen bren pwdwr, neu weithiau ar wyneb y ddaear. Yn aml, maen'r Pengeimion yn canfod hen nythod cnocellau coed i nythu ynddo, yn hytrach na thurio eu hunain i'r pren. Gwyn yw lliw eu wyau.

Teulu golygu

Mae'r Pengam yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cnocell Fawr America Dryocopus pileatus
 
Cnocell Folwen Dryocopus javensis
 
Cnocell Guayaquil Campephilus gayaquilensis
 
Cnocell Magellan Campephilus magellanicus
 
Cnocell Schulz Dryocopus schulzii
 
Cnocell biglwyd Campephilus guatemalensis
 
Cnocell braff Campephilus robustus
 
Cnocell ddu Dryocopus martius
 
Cnocell fronrhudd Campephilus haematogaster
 
Cnocell fwyaf America Campephilus principalis
 
Cnocell gopog gefnwen Campephilus leucopogon
 
Cnocell gribgoch Campephilus melanoleucos
 
Cnocell yddfgoch Campephilus rubricollis
 
Cnocell ymerodrol Campephilus imperialis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jobling, James A (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London: Christopher Helm. t. 212. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: