Cnocell fwyaf America
Cnocell fwyaf America Campephilus principalis | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Piciformes |
Teulu: | Picidae |
Genws: | Campephilus[*] |
Rhywogaeth: | Campephilus principalis |
Enw deuenwol | |
Campephilus principalis |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fwyaf America (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau mwyaf America) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Campephilus principalis; yr enw Saesneg arno yw Ivory-billed woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. principalis, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America.
Teulu
golyguMae'r cnocell fwyaf America yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cnocell Fawr America | Dryocopus pileatus | |
Cnocell Folwen | Dryocopus javensis | |
Cnocell Guayaquil | Campephilus gayaquilensis | |
Cnocell Magellan | Campephilus magellanicus | |
Cnocell Schulz | Dryocopus schulzii | |
Cnocell biglwyd | Campephilus guatemalensis | |
Cnocell braff | Campephilus robustus | |
Cnocell ddu | Dryocopus martius | |
Cnocell fronrhudd | Campephilus haematogaster | |
Cnocell fwyaf America | Campephilus principalis | |
Cnocell gopog gefnwen | Campephilus leucopogon | |
Cnocell gorunllwyd | Yungipicus canicapillus | |
Cnocell yddfgoch | Campephilus rubricollis | |
Cnocell ymerodrol | Campephilus imperialis |
Difodiant
golyguAm 77 o flynyddoedd mae adarwyr wedi chwarae gêm o guddio gyda chnocell coed fwyaf America Campephilus principalis aderyn crand ond anodd ei weld a gafodd ei ddisgrifio fel "pendefig mawr llwyth y cnocellod”.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau[1] ar 29 Medi 2021, fodd bynnag, ei fod yn bwriadu datgan bod yr aderyn bellach yn ffurfiol yn ddiflanedig, (ynghyd â 22 o rywogaethau eraill - pob un yn sgîl gweithgaredd dynol)
Roedd gwylwyr adar wedi eu brawychu ac yn dal heb eu hargyhoeddi ei bod wedi diflannu. Er na welwyd unrhyw arwyddion ohoni ers 1944, mae'n bosibl bod y gnocell eto yn llechu yn rhywle. Maent yn ofni y bydd newid ei statws i ‘Ddiflanedig’ yn golygu mwy o berygl iddi. "O’i chadw ar y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl mae modd cadw sylw arni, a gorfodi taliaethau i feddwl am barhau i reoli ei chynefin yn y gobaith ei bod yn dal i fodoli" meddai John Fitzpatrick, biolegydd ym Mhrifysgol Cornell. Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth yn datgan ailddarganfod yr aderyn yn nwyrain Arkansas. Roedd clip fideo yn awgrymu bodolaeth o leiaf un gwryw.
Roedd y gnocell, a oedd hyd at 51cm (20mod.) o daldra, yn arfer mynychu fforestydd de-ddwyrain yr UD, ond arweiniodd logio a hela at ei dirywiad yn y 19eg ganrif.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ The Times 30 Medi 2021 "Extinction has come Knocking for chief of the woodpecker tribe"