Ku Klux Klan

(Ailgyfeiriad o KKK)

Ku Klux Klan, KKK ar lafar a The Klan yn anffurfiol, yw'r enw o dri sefydliad de eithafol[6][7][8][9] a oedd yn bodoli ac sy'n bodoli o hyd yn yr Unol Daleithiau. Maent yn adfocadu materion adweithiol eithafol megis goruchafiaeth y dyn gwyn, cenedlaetholdeb y dyn gwyn, a gwrth-fewnfudo, a weithredwyd yn hanesyddol drwy derfysgaeth.[10][11] Ers canol yr 20g, mae'r KKK hefyd wedi bod yn gwrth-gomiwnyddol.[10] Dosberthir y mudiad yn a'i sawl enwad yn grŵp casineb.[12]

Ku Klux Klan

Rali Ku Klux Klan, Gainesville, Florida, 31 Rhagfyr 1922.
Bodolaeth
Clan 1af 1865–1870au
2il Glan 1915–1944
3ydd Clan 1 ers 1946
Aelodau
Clan 1af 550,000
2il Glan rhwng 3 a 6 miliwn[1] (at ei anterth rhwng 1920–1925)
Priodweddau
Tarddiad Unol Daleithiau America
Ideoleg wleidyddol Goruchafiaeth y dyn gwyn
Cenedlaetholdeb y dyn gwyn
Cynhenidiaeth
Terfysgaeth Gristnogol[2][3][4][5]
Neo-Gonffedyddiaeth
Neo-ffasgaeth
Sefyllfa wleidyddol De eithafol
Crefydd Protestaniaeth
1Mae'r trydydd clan wedi ei ddatganoli, gyda tua 179 pennod.

Dechreuodd y clan cyntaf yn Ne America yn y 1860au, ond daeth i'w ben erbyn y 1870au cynnar. Dechreuodd aelodau wisgo gwisgoedd gwynion: gynau, masgiau, a hetiau conig, a grëwyd i edrych yn anghysbell a dychrynllyd, ac i guddio'i hwynebau.[13] Dechreuodd yr ail KKK yn fyd-eang yn y 1920au cynnar, a gwisgo'r un gwisgoedd a geiriau côd â'r clan cyntaf, a dechrau llosgi croesau ar yr un pryd.[14] Tynnai sylw at y Klan yn sgil lynsio Leo Frank yn 1915, a gwrthwynebodd y garfan newydd Iddewon, Catholigion, a mewnfudwyr yn ogystal â phobl groenddu. Enw llawlyfr y grŵp newydd oedd y Kloran, chwarae ar eiriau'r "Klan" a'r "Corân". Cyrhaeddodd y mudiad ei anterth yn y 1920au, pan oedd rhyw 15% o boblogaeth y wlad oedd yn medru ymuno â'r Klan yn aelodau, ac hynny am dâl o $10 yr un. Dynion amlwg ym myd busnes a gwleidyddiaeth oedd rhai o'r aelodau, ac roedd Clansmyn wedi eu hethol i swyddi pwysig yn llywodraethau Tennessee, Indiana, Oklahoma, ac Oregon. Yn nhaleithiau'r canolbarth cafodd nifer o sosialwyr a chomiwnyddion eu llofruddio gan y KKK. Bron i 4 miliwn o aelodau oedd gan y mudiad yn 1920, ond erbyn 1930 roedd y nifer wedi gostwng i ryw 30,000.

Dechreuodd y trydydd KKK ar ôl Ail Ryfel Byd a chymdeithaswyd nhw â gwrthwynebu mudiadau iawnderau sifil a chynydd ymysg grwpiau lleiafrifol. Cyfeiriodd y ail a thrydydd Ku Klux Klan yn aml at waed "Celtaidd" ac "Eingl-Sacsonaidd" America, sy'n atgoffa o gynhenidiaeth y 19g a chwyldroadwyr trefedigaethol Prydeinig y 18g.[15] Mae pob grŵp yn adnabyddus am derfysgaeth.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. McVeigh, Rory. "Structural Incentives for Conservative Mobilization: Power Devaluation and the Rise of the Ku Klux Klan, 1915–1925". Social Forces, Cyf. 77, Rhif 4 (Mehefin., 1999), t. 1463
  2. Al-Khattar, Aref M. (2003). Religion and terrorism: an interfaith perspective (yn en). Westport, CT: Praeger, tud. 21, 30, 55
  3. Michael, Robert, a Philip Rosen. Dictionary of antisemitism from the earliest times to the present. Lanham, Maryland, UDA: Scarecrow Press, 1997 t. 267.
  4. Wade, Wyn Craig (1998). The fiery cross: the Ku Klux Klan in America (yn en). UDA: Gwas Prifysgol Rhydychen, tud. 185. URL
  5. Robb, Thomas. [1] Archifwyd 2020-11-16 yn y Peiriant Wayback "The Knights Party, UDA." Cyrchwyd Mawrth 22, 2011
  6. O'Donnell, Patrick (Editor), 2006. Ku Klux Klan America's First Terrorists Exposed, p. 210. ISBN 1419649787.
  7. Chalmers, David Mark, 2003. Backfire: How the Ku Klux Klan Helped the Civil Rights Movement, p. 163. ISBN 9780742523111.
  8. Berlet, Chip; Lyons, Matthew Nemiroff (2000). Right-wing populism in America: too close for comfort[dolen farw]. Guilford Press. p. 60. ISBN 9781572305625.
  9. Rory McVeigh, The rise of the Ku Klux Klan: right-wing movements and national politics organizations. University of Minnesota Press. 2009.
  10. 10.0 10.1 Charles Quarles, The Ku Klux Klan and related American racialist and antisemitic organizations: a history and analysis, McFarland, 1999
  11. The Economist, "The Civil War: Finally Passing", April 2, 2011, pp. 23–25.
  12. Mae'r Anti-Defamation League Archifwyd 2012-10-03 yn y Peiriant Wayback a'r Southern Poverty Law Center yn cynnwys y mudiad yn eu rhestri o grwpiau casineb. Gweler hefyd Bfrian Levin, Brian "Cyberhate: A Legal and Historical Analysis of Extremists' Use of Computer Networks in America" yn Perry, Barbara, golygydd. Hate and Bias Crime: A Reader. t. 112 t. Google Books
  13. Elaine Frantz Parsons, "Midnight Rangers: Costume and Performance in the Reconstruction-Era Ku Klux Klan." Journal of American History 92.3 (2005): 811–36
  14. Wade, Wyn Craig (1998). The fiery cross: the Ku Klux Klan in America. USA: Oxford University Press. t. 185. ISBN 9780195123579. Cyrchwyd May 3, 2011.
  15. Michael Newton, The Invisible Empire: The Ku Klux Klan in Florida