Ffenestr Cymru, Birmingham, Alabama

ffenestr lliw yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street, Birmingham, Alabama, UDA

Mae Ffenestr Cymru, Birmingham, Alabama yn ffenestr wydr lliw a gynlluniwyd gan yr arlunydd Eingl-Gymreig John Petts. Talwyd amdano trwy danysgrifiad ymysg pobl Cymru fel arwydd o gydymdeimlad pobl Cymru ag Eglwys Bedyddwyr 16th Street, Birmingham, Alabama wedi ymosodiad terfysgaidd ar yr eglwys gan y Ku Klux Klan. O ganlyniad i'r ymosodiad, ar 15 Medi 1963, lladdwyd pedair merch groenddu wrth iddynt fynychu'r Ysgol Sul.[1]

Llun o'r ffenestr liw; nodir ar y gwaelod Given by the people of Wales.
Y bedair ferch ifanc a laddwyd (clocwedd o'r brig chwith: Addie Mae Collins, Cynthia Wesley, Carole Robertson a Carol Denise McNair).

Cefndir hanesyddol

golygu

Wedi darganfod Yr America gan Christopher Columbus, tir enfawr ond prin ei boblogaeth, dechreuodd ymerodraethau Ewrop; Sbaen, Portiwgal, Ffrainc a Phrydain Fawr mewnforio miliynau o bobl o gyfandir Affrica, yn bennaf, i'r tiroedd newydd eu darganfod, er mwyn eu gweithio fel caethweision.

Roedd caethwas yn cael ei gyfrif, yn gyfwerth â mochyn, buwch neu ddafad ac yn un o anifeiliaid tirfeddiannwr.

Daeth caethwasiaeth yn anghyfreithiol yn niwedd y 18g a dechrau’r 19g mewn nifer o daleithiau gogleddol yr Unol Daleithiau ond roedd yn ehangu yn nifer o daleithiau’r de. Yn etholiad 1860 etholwyd Abraham Lincoln yn Arlywydd, roedd Lincoln yn gwrthwynebu caethwasiaeth ac am ei wneud yn anghyfreithlon. Roedd y taleithiau deheuol yn gweld hyn fel ymosodiad ar eu hawliau cyfansoddiadol. Penderfynodd nifer o daleithiau’r De i dynnu allan o UDA a bu rhyfel cartref rhwng y taleithiau oedd am gadw'r Undeb yn unedig a'r sawl oedd am rannu'r wlad yn ddwy rhwng 1861 a 1865. Enillwyd y frwydr gan y Gogledd ac ar Ragfyr 6, 1865, daeth pob caethwas trwy'r wlad yn bobl rydd.[2].

Er iddynt gael eu rhyddhau o gaethwasiaeth, bu pobl o dras Affricanaidd yn ddioddef o ragfarn a diffyg hawliau am ddegawdau wedi’r gwrthryfel, yn arbennig felly yn y taleithiau oedd wedi cefnogi'r ochr a gollodd y rhyfel cartref. Bu ymgyrchoedd i geisio sicrhau hawliau pobl croenddu ar y naill law a mudiadau adweithiol, pwerus, yn erbyn rhoi hawliau i bobl groenddu ar y llaw arall. Ymysg y gwaethaf o'r mudiadau adweithiol oedd y Ku Klux Klan.

Ku Klux Klan

golygu

Mae’r Ku Klux Klan, sy'n dal i fodoli, yn fudiad terfysgol sy’n credu mewn goruchafiaeth pobl croenwyn ac yn defnyddio trais a thorcyfraith i geisio atal hawliau dynol rhag pobl nad ydynt yn groenwyn.

Prif: Ku Klux Klan

Fel rhan o'u hymgyrch, gosododd y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Bedyddwyr 16 Street, Birmingham, Alabama ar 15 Medi, 1963, a laddodd bedair merch ddu a oedd yn mynychu'r ysgol Sul [3].

Apêl Cymru

golygu

Fe glywodd John Petts, arlunydd gwydr lliw o Lansteffan, am y digwyddiad ar y radio. Dywedodd mewn cyfweliad bod y newyddion ar y radio wedi torri ei galon fel tad, wrth glywed am farwolaeth erchyll y plant, ac fel crefftwr wrth glywed am y difrod i’r adeilad. Cysylltodd â’r Western Mail gan awgrymu bod pobl Cymru yn codi arian i dalu am ffenestr lliw newydd i’r eglwys fel arwydd o gydymdeimlad Cristnogol yn wyneb y drwg dinistriol. Lansiodd y papur ymgyrch o dan y pennawd: Alabama: Chance for Wales to Show the Way. Cytunwyd na fyddai rhoddion unigol yn fwy na hanner coron gan nad oedd Petts na’r papur am i unigolyn cyfoethog talu am y ffenestr gyfan; ond am i’r ffenest bod yn anrheg gan bobl gyffredin Cymru. Y nod oedd codi £500 ond o fewn ychydig ddyddiau casglwyd £900.

Anfonwyd telegram at y Parch. John Cross, gweinidog yr eglwys yn Birmingham yn dweud: Mae pobl Cymru'n cynnig ail-greu a chodi ffenestr lliw i ddisodli'r un sydd wedi'i chwalu yn y bomio o'ch eglwys. Maent am wneud hyn fel symbol o gysur a chefnogaeth. Derbyniwyd ateb yn derbyn y cynnig gan nodi mae Cymru oedd yr unig wlad i gynnig cymorth uniongyrchol a materol.

Y ffenestr

golygu

Comisiynwyd Petts i gynllunio’r ffenestr gan ddefnyddio arian yr apêl i dalu am y deunydd a’r gost o ddanfon y ffenestr draw i’r Unol Daleithiau. Mae’r ffenestr yn dangos Iesu du yn dioddef mewn ystum o’r croeshoeliad, gydag un llaw wedi ymledu mewn protest at y trais, a'r llall mewn ystum o dderbyn y sawl oedd wedi dioddef ato ef. Mae’r groes yn symbol o jet o ddŵr yn cael ei saethu allan o un o’r canonau dŵr oedd yn cael eu defnyddio yn erbyn ymgyrchwyr am hawliau sifil. Ar waelod y ffenestr mae’r geiriau You Do It to Me, wedi'u hysbrydoli gan eiriau Iesu yn Mathew 25:40 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.

Roedd y syniad o ddarlunio’r Iesu fel dyn croenddu yn ddadleuol iawn ar y pryd gyda rhai yn awgrymu ei fod yn gabledd. Ond mae Arthur Price, gweinidog yr eglwys yn anghytuno. Wrth siarad ar raglen ar Radio 4 yn 2011 meddai ...I think the major message we try to take out of the window is not so much identifying Christ's colour but knowing that Christ identifies with us[4].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Wales window, Birmingham, Alabama Blog Saesneg (heb gyfieithiad) LLGC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-17. Cyrchwyd 2016-09-24.
  2. C N Trueman Causes Of The American Civil War The History Learning Site, 25 Mawrth 2015 adalwyd 2 Medi 2017
  3. Wales Arts Review AGAINST THE EVIL OF VIOLENCE – THE WALES WINDOW OF ALABAMA adalwyd 2 Medi 2017
  4. BBC News Alabama church bombing victims honoured by Welsh window adalwyd 2 Medi 2017