Cyn chwaraewr pêl-droed ydy Kenneth "Ken" McKenna (ganwyd 7 Chwefror 1960) sydd yn is-reolwr ar Morecambe yn Ail Adran Cynghrair Lloegr.

Ken McKenna
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnKenneth McKenna
Dyddiad geni (1960-07-02) 2 Gorffennaf 1960 (63 oed)
Man geniPenbedw, Lloegr
Taldra1.78m
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolMorecambe (Is-reolwr)
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1982–1983Tranmere Rovers4(0)
1983–1985Telford United
1985–1987Runcorn
1987–1989Tranmere Rovers16(3)
1989–1990Telford United
1990–1992Altrincham74(41)
1992–1994Barrow
1994–1997Conwy98(89)
1997–1998Bangor27(18)
1998–2005Y Seintiau Newydd63(20)
Timau a Reolwyd
2001–2008Y Seintiau Newydd
2008Cammell Laird
2010–2011Altrincham
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa chwarae golygu

Dechreupodd McKenna ei yrfa gyda Tranmere Rovers gan wneud pedwar ymddangosiad yn Y Gynghrair Bêl-droed[1]. Gadawodd y clwb ym 1983 er mwyn ymuno â Telford United a Runcorn cyn dychwelyd i Tranmere ym 1987.

Ymunodd ag Altrincham ar ddechrau tymor 1990-91gan sgorio 56 o goliau mewn 100 o gemau[2][3].

Ar ôl cyfnod gyda Barrow, ymunodd McKenna â Chonwy yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994 gan sefydlu record newydd yn ystod tymor 1995-96 o sgorio 38 gôl mewn 35 gêm ac ennill Esgid Aur y Gynghrair[4].Treuliodd dymor gyda Bangor ym 1997-8 a llwyddodd i sgorio yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Cei Connah wrth i’r Dinasyddion godi’r gwpan am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd[5].

Ymunodd â chlwb Total Network Solutions y tymor canlynol lle roedd yn aelod allweddol o'r tîm gipiodd y bencampwriaeth yn 2000.

Gyrfa rheoli golygu

Cymrodd McKenna yr awennau fel rheolwr Total Network Solutions yn 2001 gan arwain y clwb i dair pencampwriaeth yn olynol yn 2004-05, 2005-06 a 2006-07 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru yn 2005 ac arwain y clwb i Ewrop ar saith achlysur[2][5].

Gadawodd McKenna ei swydd gyda’r Seintiau yn 2008 ac wedi cyfnodau â Cammell Laird ac Altrincham, mae o bellach yn is reolwr yn Morecambe[6].

Yn 2013 cafodd McKenna ei urddo yn aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru[5].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ken McKenna". Post War English & Scottish Football League A – Z Player's Database.
  2. 2.0 2.1 "Altrincham appoint Ken McKenna as manager". BBC Sport. 2010-10-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Alty legends section 13". Robins' review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-15. Cyrchwyd 14 March 2010.
  4. "Top 25 individual goalscorers 1995/6". welsh-premier.com. welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2016-01-24.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Oriel yr Anfarwolion: Ken McKenna". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Morecambe management duo Bentley and McKenna sign new long-term contracts". Lancaster Guardian. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]