King's Cross, Caerdydd
Tafarn hoyw wedi ei lleoli yng nghanol prifddinas Cymru, Caerdydd yw'r King's Cross (ond a elwir bellach yn The Corner House). Adeiladwyd yr adeilad yn wreiddiol ym 1872 [1] ond cafodd ei foderneiddio ym 1998. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Enghraifft o'r canlynol | tafarn |
---|---|
Lleoliad | Castell, Caerdydd |
Perchennog | Mitchells & Butlers |
Rhanbarth | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Diwedd cyfnod a newid enw golygu
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Yn 2009, cyhoeddwyd y byddai cwmni Mitchells & Butlers yn cymryd rheolaeth o'r dafarn ac yn ei newid yn dafarn gadwyn.[2] Arweiniodd hyn at ymgyrch gan gymuned hoyw Caerdydd er mwyn achub naws y dafarn. Dadleuai'r ymgyrchwyr fod y dafarn yn hanesyddol gan mai dyma oedd tafarn hoyw hynaf Cymru. Cyflwynwyd deiseb gyda thros 2,000 o enwau arni yn gofyn ar y cwmni i gadw hunaniaeth y dafarn fel ag yr oedd. Cefnogwyd yr ymgyrch gan y chwaraewr rygbi hoyw, Gareth Thomas ac arweinydd Cyngor Caerdydd ar y pryd, Rodney Berman.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan CardiffPubs Adalwyd ar 25 Mai 2011
- ↑ Bid to save gay Cardiff pub is defeated (23 Chwefror 2011). Adalwyd ar 25 Mai 2011.