Kliment Ohridski
Archesgob cyntaf Bwlgaria ac ysgolhaig disglair oedd Sant Kliment Ohridski (tua 840 – 27 Gorffennaf 916). Fel disgybl i Sant Cyril a Sant Methodius, cymerodd ran yn y genhadaeth i ddwyn Cristnogaeth i Moravia yn yr 860au. Gorfu ffoi oddi yno, ar ôl adeg yn y carchar, yn 885 neu 886, pryd chwalwyd gweithgareddau'r clerigwyr Slafonaidd gan yr eglwyswyr Almaenig yno. Gyda Naum Preslavski, cyrhaeddodd brifddinas Bwlgaria, Pliska, lle y'i croesawyd gan Boris I, a'i cefnogodd i addysgu clerigwyr newydd Bwlgaraidd. Hybodd ddiwylliant Bwlgaria drwy gyflwyno'r iaith Slafoneg fel iaith litwrgi'r eglwys (yn lle'r Roeg) a thrwy sefydlu dwy ysgol lenyddol yn defnyddio'r iaith yn Pliska ac yn Ohrid.
Kliment Ohridski | |
---|---|
Ganwyd | c. 840 yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Bu farw | 27 Gorffennaf 916 Bulgarian Empire |
Dinasyddiaeth | First Bulgarian Empire |
Galwedigaeth | llenor, cenhadwr |
Swydd | esgob |
Adnabyddus am | The Life of Constantine |
Dydd gŵyl | 27 Gorffennaf, 25 Tachwedd |
Fe'i hordeiniwyd fel archesgob Drembica yn 893, wedyn fel archesgob Ohrid. Ysgrifennodd nifer o destunau pwysig mewn Slafoneg Eglwysig Fwlgaraidd, gan gynnwys un o fucheddau Sant Cyril a Sant Methodius. Ar ôl ei farwolaeth yn 916, fe'i claddwyd yn Eglwys Pantaleimon ger Ohrid. Heddiw mae'r prifysgolion yn Sofia a Bitola yn dwyn ei enw.