Ohrid
Dinas ar lan ddwyreiniol Llyn Ohrid yn ne-orllewin Gogledd Macedonia yw Ohrid (Macedoneg Охрид / Ohrid, Albaneg Ohri). Mae ganddi 55,749 o drigolion (Cyfrifiad 2002), 84.6% ohonynt yn Facedoniaid, 5.5% yn Albaniaid a 4.2% yn Dyrciaid. Prif ddiwydiant y ddinas heddiw yw twristiaeth.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 38,818 |
Pennaeth llywodraeth | Nikola Bakracheski |
Cylchfa amser | CET, CEST |
Gefeilldref/i | Piran, Inđija, Wollongong, Budva, Vinkovci, Pogradec, Kragujevac, Windsor, Vidovec, Trogir, Yalova, Stari Grad, Safranbolu, Mostar, Ogrodzieniec, Gaziosmanpaşa, Nikšić |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Macedoneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Natural and Cultural Heritage of the Ohrid region |
Sir | Bwrdeistref Ohrid |
Gwlad | Gogledd Macedonia |
Arwynebedd | 389.93 km² |
Uwch y môr | 695 ±1 metr |
Gerllaw | Llyn Ohrid |
Cyfesurynnau | 41.1169°N 20.8019°E |
Cod post | 6000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Nikola Bakracheski |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Sefydlwyd y ddinas yng nghyfnod yr Henfyd fel Lychnidos. Roedd yn sefyll ar y Via Egnatia, ffordd oedd yn cysylltu porth Dyrrachion (Durrës heddiw) ar Fôr Adria â Chaergystennin. Roedd Ohrid yn ganolfan ddiwilliannol a milwrol o bwys yn yr Oesoedd Canol. Mae adfeilion caer Tsar Samuil i'w gweld uwchben y ddinas hyd heddiw. Yn ei amser ef, yn y nawfed a'r 10goedd (992-1018), prifddinas gwladwriaeth Bwlgaria oedd Ohrid. Cynhyrchiwyd nifer fawr o lawysgrifau crefyddol ym mynachlogydd yr ardal o'r 9g ymlaen. Mae ffyniant diwylliant Bwlgaro-Macedonaidd yn y cyfnod hwnnw a sefydliad ysgol lenyddol Ohrid yn gysylltiedig yn bennaf ag esgob Ohrid, Sant Kliment Ohridski, ag â Sant Naum. Cipiwyd y ddinas gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdr Basil II ('Lladdwr Bwlgariaid') yn 1015. Sefydlwyd patriarchaeth yn y ddinas ar gyfer y rhan fwyaf o Gristnogion Slafonaidd y Balcanau. Parhaodd fel archesgobaeth tan iddi gael ei diddymu yn 1767. Mae eglwysi a mynachlogydd y ddinas o ddiddordeb pensaernïol, ynghŷd â thai arferol mewn arddull nodweddiadol o'r Balcanau. Ychwanegwyd Ohrid a Llyn Ohrid i restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1980.
Enwogion
golygu- Sant Naum
- Sant Clement o Ohrid
- Dafydd o Ohrid, milwr
- Dervish Hima (1872–1928), gwleidydd
- Eva Nedinkovska (g. 1983), cantores
Gefeilldrefi
golygu
Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria |
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879) |