Hen brifddinas Bwlgaria yn ystod blynyddoedd cynnar y 'Deyrnas Gyntaf' o 681 tan canol yr 890au oedd Pliska. Fe'i sefydlwyd gan Khan Asparukh ychydig o flynyddoedd cyn 680. Yn 892 daeth Pliska'n ganolfan gwrthryfel Paganaidd o dan arweinyddiaeth Brenin Vladimir. Ar ôl rhoi pen ar y gwrthryfel, disodlwyd Vladimir, a gosodwyd trydydd fab Boris I yn ei le fel Simeon I. Un o'i benderfyniadau cyntaf fel teyrn oedd symud y brifddinas i Preslav, tref gaerog gerllaw, mae'n debyg oherwydd bod dylanwad y Paganiaid yn dal yn gryf yn Pliska. Lleihaodd pwysigrwydd y dref o hynny ymlaen. Difethwyd y ddinas yn llwyr yn ystod ymosodiadau gan Rws Kiev ac Ymerodraeth Bysantiwm rhwng 969 a 972, a chafodd hi mo'i hailadeiladu wedyn.
Pliska |
Math | kmetstvo of Bulgaria, dinas ym Mwlgaria, pentref  |
---|
|
Poblogaeth | 914, 866  |
---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00  |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | Bwrdeistref Kaspichan  |
---|
Gwlad | Bwlgaria  |
---|
Arwynebedd | 34.356 km²  |
---|
Uwch y môr | 145 metr  |
---|
Cyfesurynnau | 43.362015°N 27.125411°E  |
---|
Cod post | 9920  |
---|
 |
|
|
Pliska |
Math | kmetstvo of Bulgaria, dinas ym Mwlgaria, pentref  |
---|
|
Poblogaeth | 914, 866  |
---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00  |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | Bwrdeistref Kaspichan  |
---|
Gwlad | Bwlgaria  |
---|
Arwynebedd | 34.356 km²  |
---|
Uwch y môr | 145 metr  |
---|
Cyfesurynnau | 43.362015°N 27.125411°E  |
---|
Cod post | 9920  |
---|
 |
|
|
Lleoliad Pliska ym Mwlgaria
Adfeilion y ddinas ganoloesol
Heddiw Pliska yw enw pentref bach yn agos at adfeilion y ddinas ganoloesol. Ei henw cynharach oedd Aboba, ac fe'i hailenwyd yn 1925, ryw deg ar hugain o flynyddoedd ar ôl i adfeilion y dref hanesyddol gael eu darganfod ym 1899. Mae adfeilion y ddinas hen yn gorwedd tua 3 km i'r gogledd o'r pentref cyfoes.