Kouign-amann
Mae Kouign-amann (Llydaweg: [ˌkwiɲ aˈmãn]; llu. kouignoù-amann; "cacen menyn") yn gacen Lydewig felys wedi'i gwneud â thoes wedi'i lamineiddio. Mae'n gacen crwn aml-haenog, wedi'i gwneud yn wreiddiol gyda thoes bara (toes viennoiserie heddiw), sy'n cynnwys haenau o fenyn a siwgr wedi'i ymgorffori, yn debyg o ran ffasiwn i grwst pwff er bod ganddo lai o haenau. Mae'r gacen yn cael ei bobi'n araf nes bod y siwgr yn carameleiddio a'r menyn (mewn gwirionedd y stêm o'r dŵr yn y menyn) yn ehangu'r toes, gan arwain at ei strwythur haenog. Mae fersiwn lai, kouignette, yn debyg i croissant carameledig siâp myffin.
Math | sweet pastry |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1860 |
Yn cynnwys | toes, siwgr, menyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguArbenigedd o dref Douarnenez yn Penn-ar-Bed, Llydaw lle y tarddodd tua 1860, priodolir y crwst i Yves-René Scordia (1828–1878).[1] Yn ôl y sôn, doedd gan y pobydd ddim ar ôl i'w werthu un diwnrod, ond, er mwyn diwallu chwant y cwesmeriaid am fwydach, defnyddiodd y cynhwysion oedd ar ôl yn y becws sef, blawd, siwgr a menyn. Ni roddodd Scorida patent ar ei ddyfais ac yn fuan daeth yn deisen boblogaidd ar hyd Llydaw. Lledaenodd poblogrwydd y deisen yn yr 1970au gyda chynnydd mewn twristiaeth i Lydaw. [2]
Amrywiol
golyguYn 2011 disgrifiodd y New York Times y kouign-amann fel "the fattiest pastry in all of Europe."[3]
Yn yr Unol Daleithiau, dynodwyd 20 Mehefin fel "Diwrnod Kouign Amann Cenedlaethol".[4]
Rysáit
golyguMae rysáit gwreiddiol llym Douarnenez yn gofyn am gymhareb o 40% o does bara, 30% o fenyn, a 30% o siwgr.[5] Yn draddodiadol, mae kouign-amann yn cael ei bobi fel cacen fawr a'i weini mewn tafelli, er yn ddiweddar, yn enwedig yng Ngogledd America, mae teisennau bach maint cacennau bach (kouignettes) wedi dod yn fwy poblogaidd.
Oriel
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gunther, Caitlin Raux (17 October 2019). "The Story of France's Most Extraordinary Pastry". Food52.com. Cyrchwyd 2019-12-29.
- ↑ "The true story of Kouign-amann". verygourmand.com. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2024.
- ↑ Spiegel, Brendan (29 November 2011). "A Pastry From Brittany Making Waves Stateside". In Transit Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-14.
- ↑ National Day Calendar
- ↑ Krystal, Becky. "Meet the kouign-amann, the caramelized French pastry we're loving right now". Washington Post. Cyrchwyd 2015-08-21.
Dolenni allanol
golygu- Rysáit Kouign-amman ar wefan BBC
- La recette du véritable kouign amann de Douarnenez par Alain Le Berre rysáit yn Ffrangeg ar Youtube
- fideo Kouign-Amann / No Mixer – Bruno Albouze ar Youtube