Kraunchasana (Y Crëyr)

asana eistedd, mewn ioga

Asana, neu osgo'r corff o fewn ymarferion ioga yw Krauñcāsana (Sansgrit: क्रौञ्चासन) neu'r Crëyr, sydd hefyd wedi'i ysgrifennu fel Krounchasana. Asana eistedd ydyw ac fe'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer corff.[1][2]

Krounchasana, neu'r Crëyr (gyda'r dwylo mewn osgo mwdra)
Kraunchasana
Math o gyfrwngasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit Kraunch (क्रौञ्च) sy'n golygu "crëyr glas", ac enw mynydd;[3] ac Asana (आसन, āsana) sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[4] Dywedir hefyd bod Kraunch yn golygu'r Garan mursenaidd neu'r gylfinir, y ddau fel y crëyr glas yn adar dŵr gyda choesau hir.[5]

Mae Sritattvanidhi o'r 19g yn defnyddio'r enw ar gyfer asana gwahanol, sef cyrcydu, wedi'i gynnal gan raff sy'n cael ei ddal â'r dannedd.[6] Disgrifir yr asana modern mewn llawlyfrau o'r 20g fel Light on Yoga gan BKS Iyengar.[3] Mae Swami Yogesvarananda yn enwi'r ystum modern yn "Ekapadotthitahastapadaprasaranasana" yn ei ioga Camau Cyntaf i Uwch ym 1970, gan gadw'r enw Kraunchasana ar gyfer cyfnod paratoi asana arall, Bakasana (y Craen). Mae Pattabhi Jois yn defnyddio’r enw ar yr un ystum ag Iyengar, gan awgrymu, yn ôl yr ysgolhaig ioga Norman Sjoman, bod y ddau wedi dysgu’r ystum gan eu hathro Krishnamacharya .[6]

Amrywiadau

golygu

Gellir dal strap yn y dwylo a'i dolennu y tu ôl i wadn troed y goes estynedig, i ganiatáu i'r frest barhau i godi tra bod y goes wedi'i sythu.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. London: Dorling Kindersley. t. 62.
  2. Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken Books. tt. 158–159.
  3. 3.0 3.1 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken Books. t. 523. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "LoY" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. Sinha, S.C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  5. "Kraunca, Krauñca, Krauñcā: 22 definitions Introduction". Wisdom Library. Cyrchwyd 10 Hydref 2020.
  6. 6.0 6.1 Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 44, 50, 79, 91. ISBN 81-7017-389-2.
  7. YJ Editors (28 Awst 2007). "Heron Pose". Yoga Journal. https://www.yogajournal.com/poses/heron-pose/. Adalwyd 27 Awst 2021.