Kseniya Sobchak
Gwleidydd o Rwsia yw Kseniya Sobchak (ganwyd 5 Tachwedd 1981) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu a radio. Mae hi'n ferch i faer etholedig cyntaf Saint Petersburg, Anatoly Sobchak, a'r seneddwr Lyudmila Narusova. Daeth Sobchak yn adnabyddus i'r cyhoedd drwy'r rhaglen deledu Dom-2 ar sianel TNT Rwsia. Mae hi'n angor-gyflwynydd sianel deledu annibynnol "Rain" Dozhd. Credir iddi werthu ei siars yn 'Euroset' am $2.3 million yn Rhagfyr 2012.[1]
Kseniya Sobchak | |
---|---|
Llais | Kseniya Sobchak voice.oga |
Ganwyd | 5 Tachwedd 1981 St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, gwleidydd, cymdeithaswr, model, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, person cyhoeddus, llenor |
Adnabyddus am | Dom-2, GosDep, Sobchak Live |
Taldra | 173 centimetr |
Pwysau | 53 cilogram |
Plaid Wleidyddol | Civic Initiative |
Tad | Anatoly Sobchak |
Mam | Ljudmila Narusova |
Priod | Maksim Vitorgan, Konstantin Bogomolov |
Partner | Ilya Yashin, Umar Dzhabrailov, Sergey Kapkov |
Plant | Platon Vitorgan |
Gwobr/au | Silver Play Button, Gold Play Button, Steppenwolf Award |
Gwefan | http://ksenia-sobchak.com/ |
llofnod | |
Bu'n aelod o 'Gyngor Cydlynu Gwrthwynebiad Rwsia' am rai blynyddoedd ac yn 2018, yn ddim ond 36 oed, safodd ar ran 'Plaid y Fenter Ddinesig' yn Etholiad Arlywyddol Rwsia - yr ymgeisydd ieuengaf erioed i wneud hynny.[2]
Fe'i ganed yn St Petersburg ar 5 Tachwedd 1981. Disgrifiodd Sobchak ei hun fel "rhanol-Iddewig". Datgelodd Sobchak hefyd ei bod hi a'i theulu wedi profi gwrth-Semitiaeth. Priododd Maksim Vitorgan ac mae Platon Vitorgan yn blentyn iddi.[3][4]
Wedi gadael yr ysgol yn 1998, mynychodd Brifysgol Herzen a Phrifysgol y Dalaith yn Saint Petersburg, ac yn 2001, symudodd i Moscfa, lle bu'n fyfyriwr yn Sefydliad Perthynas Rhyngwladol y Wladwriaeth ble cafodd radd meistr mewn gwleidyddiaeth.
Gwleidyddiaeth
golyguRoedd tad Sobchak, Anatoly, wedi bod yn athro prifysgol yn y gyfraith ar Vladimir Putin a Dmitry Medvedev ym Mhrifysgol y Dalaith, Leningrad. Adeiladodd berthynas agos â Putin, yn arbennig, ac yn 1991 helpodd lansio gyrfa Putin mewn gwleidyddiaeth pan oedd yn faer Saint Petersburg. Yna, pan gafwyd cyhuddiadau o lygredd yn erbyn Anatoly, helpodd Putin ef i ffoi o Rwsia.[5][6]
Yr Etholiad am Arlywyddiaeth Rwsia, 2018
golyguCyn cyhoeddi ei bwriad i fod yn rhan yn ras Arlywyddol 2018, trafododd Sobchak ei bwriad gyda Putin, wyneb yn wyneb. Dywedodd: "Gyda Vladimir Vladimirovich, mae fy nheulu wedi bod yn gysylltiedig â llawer iawn ... felly roeddwn i'n teimlo ei bod yn iawn i ddweud fy mod wedi gwneud penderfyniad o'r fath". Dywedodd Putin wrthi, "mae gan bob person yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a rhaid iddynt fod yn atebol amdanynt".[7]
Ar 15 Mawrth 2018, cyhoeddodd Sobchak a Dmitry Gudkov eu bod wedi sefydlu plaid newydd, sef Plaid y Newidiadau, ar sail Menter Ddinesig y blaid.
Barn gwleidyddol
golyguMae Sobchak yn feirniadol o bolisïau gwleidyddol Putin. Er ei bod yn dweud ei bod wedi "pleidleisio" yn hapus dros Putin yn y gorffennol pan oedd hi'n iau, ni fydd yn gwneud hynny mwyach. Yn etholiad arlywyddol Rwsia yn 2012, dywedodd iddi bleidleisio dros Mikhail Prokhorov.
Mae Sobchak yn disgrifio'i hun fel "gwladgarwr a chenedlaetholwr". Fodd bynnag, mae'n credu hefyd bod llawer o'r gwladgarwch yn Rwsia heddiw yn artiffisial.
Teledu
golyguDaeth Sobchak yn enwog yn 2004, am gyflwyno'r sioe reality Dom-2. Gadawodd y sioe yn 2012 ac yna rhwng 2008-2010 cyflwynodd Pwy sydd DDIM eisiau bod yn filiwnydd?, Yr Arwr-6 Olaf, Bywyd Melys Blondan, Myz-TV, a Dwy Seren. Yn 2010, bu Sobchak yn westai ar y rhaglen deledu Y Meddwl Rhydd, rhaglen ar sianel y wladwriaeth.
Ers 2011 mae Sobchak wedi cynnal y rhaglen Sobchak Live ar y sianel annibynnol Dozhd ac yn 2012, ymddangosodd yn y gyfres deledu Canllaw Byr i fywyd Hapus.
Ffilm
golyguActiodd Sobchak yn y comedïau Hitler yn mynd Kaput!, Rzhevsky yn erbyn Napoleon, Y Mwfi Gorau, Entropiya a Lladron a hwrod (2004).[8]
Cerddoriaeth
golyguYn 2007, recordiodd Sobchak y gân 'Dawnsia Gyda Mi!' (Потанцуй со мной)' gyda'r rapiwr Rwsiaidd, Timati, yn ogystal â fideo cerddorol (Fideo sydd ar YouTube). Priodolodd cyfryngau Rwsia ar y pryd berthynas rhwng Sobchak a Timati.[9]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Silver Play Button, Gold Play Button, Steppenwolf Award .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mass media: K.Sobchak broke up with I.Yashin SOCIETY, 10 Rhagfyr 2012 16:49
- ↑ "Ксения Собчак зарегистрирована кандидатом в Президенты России". Rossiyskaya Gazeta (yn Rwseg). Cyrchwyd 2018-02-08.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2016. "Ksenija Sobčak".
- ↑ Crefydd: https://www.youtube.com/watch?v=wpfpey_0G5A&t=2294s. https://www.youtube.com/watch?v=wpfpey_0G5A&t=2294s.
- ↑ Newsweek, "Russia's Mighty Mouse", 25 Chwefror 2008.
- ↑ Splurge scandal at restaurant Archifwyd 6 Ionawr 2012 yn y Peiriant Wayback, Newyddion Moscfa, adalwyd 15/12/2011
- ↑ Sobchak met with Putin before announcing her participation in the elections 18 October, Sergey Smirnov, Vedomosti
- ↑ "Kseniya Sobchak - Biography". Internet Movie Data Base. Cyrchwyd 6 Mawrth 2009.
- ↑ Coбчɑĸ ϲoбρɑлɑϲь нɑ ʙыбoρы бeɜ пoлuтuчeϲĸoй пρoгρɑммы Archifwyd 2021-09-04 yn y Peiriant Wayback Соломия КомароваПн, 23 октября 2017