Papur newyddion annibynnol yn yr iaith Ffrangeg a gyhoeddir yn Libanus yw L'Orient-Le Jour.

L'Orient-Le Jour
Math Papur newydd dyddiol
Golygydd Nagib Aoun
Sefydlwyd 1971
Pencadlys Beirut
Gwefan swyddogol www.lorientlejour.com/

Cafodd ei lawnsio ar 1 Medi, 1970, pan unwyd dau hen bapur newyddion Libanaidd, L'Orient (sefydlwyd yn Beirut yn 1923, gan Gabriel Khabbaz et Georges Naccache) a Le Jour (sefydlwyd yn 1935, gan Michel Chiha).

Mae'r colofnwyr rheolaidd yn cynnwys rhai o feddylwyr, haneswyr, llenorion a newyddiadurwyr mwyaf eu parch yn y Libanus gyfoes. Yn ogystal ag erthyglau ar wleidyddiaeth Libanus, y byd Arabaidd a'r byd ehangach, ceir tudalennau ar ddiwylliant, chwaraeon, yr economi, busnes, y llwyfan, y cyfryngau torfol, a hamdden.

Cyhoeddir L'Orient-Le Jour ym Meirwt. L’Orient-Le Jour yw'r unig bapur newydd Ffrangeg bellach yn Libanus a'r Lefant (ac eithrio'r Aifft). O ran ei werthiant, mae'n drydydd o blith holl bapurau Libanus (gan gynnwys papurau Arabeg a Saesneg).

Mae'r apapur yn aelod o'r Arab Press Network, rhwydwaith sy'n hyrwyddo gwasg gryf annibynnol yn y byd Arabaidd.

Dolen allanol golygu