Arab Press Network

Rhwydwaith digidol i'r wasg Arabaidd yw'r Arab Press Network (APN; Ffrangeg: Le Réseau de la Presse Arabe) sy'n cefnogi ac yn hybu datblygu gwasg gryfach a mwy annibynnol yn y byd Arabaidd. Mae'n cael ei redeg gan Gymdeithas Papurau Newydd y Byd (World Association of Newspapers), sydd â'i phencadlys ym Mharis, gyda chymorth y grwp papurau newydd Danaidd JP/Politiken.[1]

Arab Press Network

Yn ôl APN, mae ei genhadaeth yn cynnwys hwyluso cysylltiadau rhwng newyddiadurwyr a golygyddion Arabaidd er mwyn hybu gwasg rydd. Ar lefel fasnachol, mae'r rhwydwaith yn cynorthwyo papurau newydd i dyfu ac ehangu trwy gynnig cyngor ymarferol.

Mae gan yr APN wefan lle ceir newyddion am y byd Arabaidd ac am ddatblygiadau ynddo sy'n ymwneud â rhyddid y wasg.

Papurau

golygu

Mae'r papurau pan-Arabaidd Arabeg Al Arab, Al Hayat, Al Quds Al Arabi, Al Sharq Al Awsat yn aelodau. Ceir papurau newydd Arabeg, Ffrangeg a Saesneg sy'n aelodau o APN yn:[2]

  • Algeria (Al Fadjr, Echorouk El Yawmi, El Khabar, El Watan, Le Quotidien d'Oran, Liberté)
  • Yr Aifft (Akhbar Al Yom, Al Ahram, Al Ahram Weekly, Al Ahrar, Al Gomhuria, Al Masry Al Youm, Al Messa, Al Shaab, Al Wafd, El Akhbar, Nahda Misr, Rose El Yossef, The Egyptian Gazette)
  • Bahrein (Akhbar Al Khaleej, Al Ayam, Al Meethaq, Al Wasat, Bahrein Tribune, Gulf Daily News)
  • Comoros (Al Watwan, Kashkazi, La Gazette des Comores)
  • Jibwti (Al Qurn, La Nation)
  • Yr Emiradau Arabaidd Unedig (7Days, Akhbar Al Arab, Al Bayan, Al Khaleej, Emarat al-Youm, Emirates Today, Gulf News, Khaleej Times)
  • Gwlad yr Iorddonen (Addustour, Al Anbat, Al Arab, Al Yawm, Al Ghad, Al Rai, Jordan Times)
  • Irac (Ad Dustur, Al Adala, Al Ahali, Al Bayyna, Al Ittihad, Al Ittijah, Al Akhbar, Al Jihad, Al Mada, Al Mashriq, Al Safeer, Al Siyadah, Al Ta'akhi, Al-Sabah, Alsabah Algadeed, Az-Zaman, Baghdad, Tariq Al Shaab, Xebat)
  • Ciwait (Al Anbaa, Al Qabas, Al Rai al Aam, Al Seyassah, Al Watan, Arab Times, Ciwait Times)
  • Libanus (Ad Diyar, Al Akhbar, Al Anwar, Al Balad, Al Mustaqbal, An Nahar, As-Safir, L'Orient-Le Jour, The Daily Star)
  • Libia (Al Fajr al Jadeed, Al Jamahiria, Al Shams, Tripoli Post)
  • Mauritania (Akhbar Nouakchot, Al Aqsa, Al Qalam, Al Shaab, Al Siraj, L'Eveil Hebdo, Le Calame, Nouakchott Info, Rajoul Esharee)
  • Moroco (Al Ahdath al Maghribia, Al Alam, Al Bayane Alyaoume, Al Ittihad Al Ichtiraki, Al Massae, Al Sabah, Aujourd'hui le Maroc, L'Economiste, L'Opinion, La Vie Economique, Le Journal Hebdomadaire, Le Matin du Sahara et du Maghreb, Libération, Nichane, Tamazight, TelQuel)
  • Oman (Al Watan, Oman Daily, Oman Observer, Shabiba, The Week, Times of Oman)
  • Palesteina (Al Ayyam, Al Hayat al Jadida, Al Quds, Palestine Times)
  • Qatar (Al Raya, Al Sharq, Al Watan, Gulf Times, The Peninsula)
  • Sawdi Arabia (Al Eqtisadiah, Al Jazirah, Al Madina, Al Riyadh, Al Watan, Al Yaum, Arab News, Okaz, The Saudi Gazette)
  • Somalia (Ayaamaha, Dalka, Warsan)
  • Swdan (Akhir Lahza, Al Anbaa, Al Ayam, Al Ray Al Aam, Al Sahafa, Al Swdani, Swdan Vision)
  • Syria (Abyad wa Aswad, Al Iqtissadiyah, Al Thawra, Al Watan, Syria Times, Teshreen)
  • Tiwnisia (Al Chourouk, Al Mawkif, Al Tariq Al Jadid, Assabah, Essahafa, La Presse, Le Quotidien, Le Renouveau, Mouwatinoun)
  • Yemen (26 September, Al Ayyam, Al Gomhuryah, Al Sahwa, Al Thawra, The Yemen Observer, Yemen Times)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "APN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 2010-08-05.
  2. "APN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-20. Cyrchwyd 2010-08-05.

Dolenni allanol

golygu