Léon Bourgeois

Gwleidydd Ffrengig

Roedd Léon Victor Auguste Bourgeois, adnebir fel Léon Bourgeois (ganed 21 Mai 1851, Paris, Ffrainc 1851 - Château d'Oger, Marne 1925) yn wleidydd o Ffrainc ac enillyd Gwobr Heddwch Nobel ym 1920.

Léon Bourgeois
Ganwyd29 Mai 1851 Edit this on Wikidata
former 9th arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
Bu farw29 Medi 1925 Edit this on Wikidata
Épernay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • Paris Law Faculty Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, barnwr, swyddog Edit this on Wikidata
SwyddPrefect of Police of Paris, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Llywydd y Cyngor, senator of the French Third Republic, llysgennad, Llywydd y Cyngor, Prefect of Haute-Garonne, Prefect of Tarn, Sub-prefect of Reims, General secretary of prefecture of Marne, General secretary of prefecture of Seine Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialwyr-Radical a Gweriniaethwyr Radical Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Officier de la Légion d'honneur, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd seren Romania, Urdd Sant Andreas Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Mharis ac fe'i haddysgwyd mewn fel cyfrieithiwr. Treuliodd ei fywyd ym mywyd gwleidyddol a gweinyddol Ffrainc. Yn 1882 penodwyd ef yn swyddog Département Tarn ac yn 1885 ar Departement Haute-Garonne, symudodd i Baris yn ddiweddarach yn 1887 lle penodwyd ef yn swyddog yn yr heddlu.

Bywyd gwleidyddol

golygu
 
Léon Bourgeois

Yn 1888 etholwyd ef yn AS dros y Blaid Radical yn Marne. O'r foment honno ymlaen, dyrchafodd ei fywyd gwleidyddol, ac fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth Charles Floquet. Yn ddiweddarach roedd ganddo nifer o swyddi fel Gweinidog: Gweinidog Addysg Cenedlaethol rhwng 1890 ac 1892, ac eto yn 1898; Y Gweinidog Cyfiawnder yn 1893; Y Gweinidog dros Faterion Tramor ym 1906. Penllanw o'i yrfa wleidyddol oedd ei benodi'n Brif Weinidog Ffrainc rhwng Tachwedd 1895 ac Ebrill 1896. Yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn Llywydd Siambr y Dirprwyon o fis Mehefin 1902 tan fis Ionawr 1904.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cymerodd ran yn llywodraeth Ffrainc fel gweinidog heb bortffolio. Gorffennodd ei yrfa wleidyddol yn y Senedd, o ble cafodd ei benodi'n seneddwr yn 1905 a Llywydd Siambr y Senedd o fis Ionawr 1920 i fis Chwefror 1923.

Roedd yn ddirprwy Ffrengig yn y Cynadleddau Heddwch yn Yr Hâg yn 1899 a 1907, ac roedd yn aelod o'r Llys Cyflafareddu Parhaol yn yr Hâg.

Bu'n gefnogwr a chynorthwyydd sefydliad Cynghrair y Cenhedloedd, gan lywyddu dros ei sesiwn gyntaf ym 1920. Yr un flwyddyn dyfarnwyd iddo Wobr Heddwch Nobel am ei waith o blaid heddwch a'i gyfranogiad wrth sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd.

Ymatebodd Bourgois i Neges Heddwch ac Ewyllus Da (a ddaeth maes o law o dan adain yr Urdd yn 1925.[1]

Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth

golygu

Roedd Bourgeois, gweriniaethwr cymdeithasol, yn chwilio am dir canol rhwng sosialaeth a chyfalafiaeth a elwir yn "undod". Credai fod gan y cyfoethog ddyled gymdeithasol i'r tlodion y dylent ei thalu yn ôl y dreth incwm, gan roi'r refeniw angenrheidiol i'r wladwriaeth gyllido mesurau cymdeithasol i'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Fodd bynnag, gwrthwynebodd y Senedd ei gynnig, a thyfodd yr wrthblaid nes iddo ymddiswyddo fel prif weinidog.

Hyrwyddodd drethi blaengar megis trethi incwm blaengar a chynlluniau yswiriant cymdeithasol,[2] ynghyd â chydraddoldeb economaidd, cyfleoedd addysgol estynedig, a undod cydweithredol. Mewn polisi tramor, galwodd am Gynghrair y Cenhedloedd cryf, a chynnal heddwch trwy gyflafareddu gorfodol, diarfogi dan reolaeth, sancsiynau economaidd, ac efallai llu milwrol rhyngwladol.

Gwnaeth gamau pwysig wrth ddatblygu addysg uwchradd yn 1890.

Serch hynny, roedd hefyd yn aeloda o'r Seiri Rhyddion[3][4] ac roedd wyth o aelodau ei gabinet yn Seiri Rhyddion hefyd.[5]

Yn 1896 ysgrifennodd lyfr, Solidarité[6] gyda'r cynllun ar gyfer sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd a'r angen am system o gymodi ryngwladol er mwyn osgoi rhyfeloedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502490
  2. J. E. S. Hayward, "The Official Philosophy of the French Third Republic: Leon Bourgeois and Solidarism," International Review of Social History, (1961) 6#1 pp 19-48
  3. Edward A. Tiryakian (2009). For Durkheim: Essays in Historical and Cultural Sociology. Ashgate. t. 93.
  4. He was initiated at "La Sincerité", lodge of Grand Orient de France (Paul Guillaume, « La Franc-maçonnerie à Reims (1740-2000) », 2001, p. 333)
  5. Jean-Marie Mayeur; Madeleine Rebirioux (1988). The Third Republic from Its Origins to the Great War, 1871-1914. Cambridge U.P. t. 164.
  6. https://books.google.co.uk/books?id=Pjmwmf5EnzgC&dq=Solidarit%C3%A9+Leon+bourgeois&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwjM1Jiz4ITiAhXLXhUIHbNQAfAQ6AEIJTAA

Dolenni allanol

golygu