LHDT
Mae'r talfyriad LHDT (Saesneg: LGBT) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsryweddol. Mae'n addasiad o'r talfyriad hŷn LHD. Er ei fod yn dal yn ddadleuol, caiff ei ystyried yn llai dadleuol na queer ac yn fwy cynhwysfawr na chyfunrywiol neu hoyw.
Mae nifer o amrywiaethau yn bodoli. Mae'r rhai mwyaf cyffredin yn ychwanegu Q am queer, C am cwestiynu neu cynghreiriaid, A am anrhywiol neu am arall i gynnwys pob term posib, D arall am Dau-Enaid, Rh am rhyngrywiol, neu H arall am hollrywiol. Un amrywiad mwy cynhwysol ar LHDT sy'n gyffredin yw LHDTQRh+, sef lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsr, queer, rhyngrywiol a mwy, neu LGBTQI+ yn Saesneg.
Ystyr pob termGolygu
Mae pob term yn y llythrenw yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at aelodau'r grŵp penodol ac at y gymuned (isddiwylliant) sy'n amgylchynu nhw.
LesbiaiddGolygu
Yn y cyd-destun hwn, mae lesbiaidd yn cyfeirio at fenywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at fenywod.
HoywGolygu
Yn y cyd-destun hwn, mae hoyw yn cyfeirio'n benodol at wrywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at wrywod.
DeurywiolGolygu
Mae deurywiol yn cyfeirio at bersonau sy'n cael mwy nag un ryw yn atyniadol. Tra'n draddodiadol mae deurywioldeb wedi'i ddiffinio fel atyniad tuag at wrywod a benywod, yn gyffredinol mae'n cynnwys hollrywioldeb, atyniad lle nad yw rhyw'r partner o bwys (h.y. tuag at hunaniaethau gwrywol, benywol, ac unrhyw hunaniaethau eraill). Mae deurywioldeb yn cynnwys unrhywbeth rhwng cyfeiriadeddau rhywiol anrhywioldeb, cyfunrywioldeb, a heterorywioldeb.
TrawsryweddolGolygu
Defnyddir trawsryweddol yn gyffredinol fel term mantell ar gyfer amrywiaeth o unigolion, ymddygiadau, a grwpiau wedi'u canolbwyntio o amgylch y gwrthdroad llawn neu rannol o swyddogaethau rhyweddol yn ogystal â therapïau newid rhyw corfforol (gall bod yn hormonaidd neu gynnwys newidiadau llawfeddygol). Diffiniad cyffredin yw pobl sy'n teimlo nad yw'r rhywedd a roddir iddynt (pan ganwyd) yn ddisgrifiad cywir neu lawn ohonynt. Cynhwysir yn y diffiniad hwn nifer o is-gategorïau megis trawsrywiolion, trawswisgwyr ac weithiau pobl ryngryweddol. (Gweler hefyd croeswisgo.)
Gweler hefydGolygu
Dolenni allanolGolygu
- Tudalen ar wefan Undeb Myfyrwyr Bangor gyda gwybodaeth ar hanes LHDT Archifwyd 2007-02-16 yn y Peiriant Wayback.
- Geiriadur Stonewall o dermau defnyddiol cydraddoldeb, yn cynnwys nifer o eirfa LHDT Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback.
- Cynhadledd 'Y Ddraig Amryliw: LHDTC+ a Chymru a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor, 3 Chwefror 2022