Trawsrywedd
Term mantell a all gael ei gymhwyso at amrywiaeth o unigolion, ymddygiadau, a grwpiau sy'n ymwneud â thueddiadau sy'n dargyfeirio o'r swyddogaeth ryweddol normadol (dyn neu fenyw) a nodir fel arfer, ond nid ymhob achos, yng ngenedigaeth, yn ogystal â'r swyddogaeth draddodiadol gymdeithasol, yw trawsrywedd.
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Kathoey · Perfformiwr drag · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Croeswisgo · Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Anhwylder hunaniaeth ryweddol · Llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Symbolau · Trawsffobia |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Y cyflwr pan nad yw "hunaniaeth ryweddol" unigolyn (hunan-uniaethiad fel gwryw, benyw, y ddau neu nid y naill na'r llall) yn cyd-fynd â'i "rywedd assigned" (uniaethiad gan eraill fel gwrywol neu fenywol ar sail rhyw corfforol/genetig) yw trawsrywedd. Nid yw trawsrywedd yn awgrymu unrhyw ffurf benodol o gyfeiriadedd rhywiol — gall bobl drawsryweddol uniaethu eu hunain fel heterorywiol, cyfunrywiol, deurywiol, hollrywiol neu anrhywiol.
Gall unigolyn trawsryweddol gael nodweddion sy'n gysylltiedig yn arferol â rhywedd penodol, uniaethu mewn man arall ar y continwwm rhyweddol traddodiadol, neu fodoli y tu fas iddo fel "arall," "anrhyweddol", "rhyngryweddol", neu "drydedd rywedd". Gall bobl drawsryweddol hefyd uniaethu fel deuryweddol, neu ar hyd nifer o fannau ar naill ai'r continwwm trawsryweddol traddodiadol, neu'r continwa mwy manwl ac amgylchynol sydd wedi eu datblygu fel ymateb i astudiaethau llawer fanylach mewn blynyddoedd diweddar.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Layton, Lynne. In Defense of Gender Ambiguity: Jessica Benjamin. Gender & Psychoanalysis. I, 1996. Pp. 27-43. Psychoanalytic Electronic Publishing. Adalwyd ar 14 Medi, 2007.