La traviata
Opera tair act gan Giuseppe Verdi sydd wedi ei osod i libreto Eidalaidd gan Francesco Maria Piave ydy La traviata. Seilir yr opera ar La dame aux Camélias (1852), drama a addaswyd o'r nofel gan Alexandre Dumas fils. Yn llythrennol, mae'r teitl "La traviata" yn golygu Gwraig ar Gyfeiliorn, neu efallai'n fwy trosiadol, Cwymp y Wraig. Yr enw gwreiddiol oedd Violetta, ar ôl y prif gymeriad.
Gwisg Violetta yn y perfformiad cyntaf, 1853 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd, Italian opera |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Rhan o | triawd poblogaidd |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
Dechrau/Sefydlu | 1852 |
Genre | tragedy, opera |
Cymeriadau | Violetta Valéry, Alfredo Germont, Giorgio Germont, Flora Bervoix, Annina, Gastone de Letorières, Marchese d'Obigny, Dottore Grenvil, Giuseppe, Gwas Flora, Comisiynydd, Cyfeillion Violetta a Flora, Barone Douphol |
Yn cynnwys | Libiamo ne' lieti calici |
Libretydd | Francesco Maria Piave |
Lleoliad y perff. 1af | Teatro La Fenice |
Dyddiad y perff. 1af | 6 Mawrth 1853 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Paris |
Cyfansoddwr | Giuseppe Verdi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Piave a Verdi eisiau dilyn esiampl Dumas gan osod yr opera mewn cyd-destun cyfoes, ond mynnodd yr awdurdodau yn La Fenice ei bod yn cael ei gosod yn y gorffennol, "c. 1700". Dim ond yn y 1880au y gwireddwyd dymuniadau gwreiddiol y cyfansoddwr a'r libretydd ac y cynhyrchwyd cynyrchiadau "realistig"[1]
Cymeriadau
golyguRhan | Llais |
---|---|
Violetta Valéry, putain llys | soprano |
Alfredo Germont, bourgeois ifanc o deulu taleithiol | tenor |
Giorgio Germont, tad Alfredo | bariton |
Flora Bervoix, cyfaill Violetta | mezzo-soprano |
Annina, morwyn Violetta | soprano |
Gastone de Letorières, cyfaill Alfredo | tenor |
Barwn Douphol, cariad Violetta, cystadleuydd Alfredo | bariton |
Ardalydd dObigny | bas |
Doctor Grenvil | bas |
Giuseppe, gwas Violetta | tenor |
Gwas Flora | bas |
Comisiynydd | bas |
Trosolwg
golyguAct I
golyguMae Violetta Valéry yn gwybod ei bod hi ar fin marw, yn lluddedig wedi bywyd gwyllt y butain llys. Mewn parti mae hi'n cael ei chyflwyno i Alfredo Germont, gŵr sydd wedi dotio arni ers peth amser. Mae Alfredo wedi bod yn holi am ei iechyd pob dydd. Mae gwesteion y parti wedi eu difyrru gan ei ymddygiad emosiynol naïf ac yn gofyn iddo gynnig llwncdestun. Mae Alfredo yn codi ei wydr i wir gariad, ond mae Violetta yn ymateb trwy gynnig llwncdestun i gariad rhydd (Libiamo ne' lieti calici)[2].
Mae Violetta yn llesmeirio ac mae'r holl westai, ac eithrio Alfredo, yn ymadael. Mae Alfredo yn datgan ei gariad ond mae Violetta yn ymateb trwy ddatgan nad oes lle yn ei bywyd am y fath deimlad. Mae hi'n rhoi blodyn iddo, gan ofyn iddo ddychwelyd pan fydd y blodyn yn dechrau gwywo. Gan fydd y blodyn yn debygol o wywo dros nos mae Alfredo yn ymadael yn hapus gan weld y rhodd fel gwahoddiad i ymweld â hi eto'r ddiwrnod canlynol.
Wedi ei gadael ar ei phen ei hun, mae teimladau Violetta yn cael eu rhwygo rhwng y dymuniad i barhau a phleserau bywyd y llys a'r awydd mae Alfredo wedi codi ynddi i gael profi gwir gariad.
ACT II
golyguGolygfa 1
golyguMae Violetta wedi dewis bywyd gyda Alfredo, ac maent yn mwynhau eu cariad yng nghefngwlad, ymhell o gymdeithas. O ganfod bod eu bywyd newydd dim ond yn bosibl oherwydd bod Violetta wedi bod yn gwerthu ei heiddo, mae Alfredo gadael yn syth i Baris i gaffael arian. Tra fo Alfredo i ffwrdd mae ei dad, Giorgio Germont, yn ymweld â hi. Mae o'n mynnu bod hi'n ymadael a'i fab gan fod eu perthynas yn bygwth gobeithion priodasol chwaer Alfredo.
Gan gael ei pherswadio gan y tad nad oes dyfodol i'w pherthynas gyda Alfredo mae hi'n cytuno i ymadael ag ef am fyth. Mae hi'n ysgrifennu llythyr ffarwel ac yn mynd yn ôl i'w hen fywyd gan dderbyn gwahoddiad i ddawns mwgwd.
Mae Alfredo yn dychwelyd, ac wrth ei fod yn darllen y llythyr, mae ei dad yn ymddangos ac yn ceisio ei gysuro ef. Ond nid oes cysur i gael iddo. Mewn tymer gwyllt o eiddigedd mae o'n penderfynu ceisio dial am frad Violetta.
Golygfa 2
golyguYn y ddawns mwgwd mae'r newyddion am ymwahaniad Violetta ac Alfredo yn ymledu. Mae'r gwesteion yn perfformio dawnsfeydd ffiaidd i chwarddi ar Alfredo am ei ffolineb mewn cariad. Yn y cyfamser, mae Violetta a'i chariad newydd, y Barwn Douphol, yn cyrraedd. Mae Alfredo yn curo'r barwn wrth y bwrdd hapchwarae ac mae Alfredo yn ennill ffortiwn. Pan fydd pawb arall wedi ymadael, mae Alfredo yn herio Violetta, sy'n honni e bod yn wirioneddol mewn cariad â'r barwn. Yn ei dymer, mae Alfredo yn galw'r gwesteion yn dystion i ddatganiad ganddo nad oes ganddo bellach unrhyw ddyled i Violetta. Mae'n taflu ei enillion ati. Mae Giorgio Germont, sydd wedi bod yn dyst i'r olygfa, yn ceryddu ei fab am ei ymddygiad. Mae'r barwn yn herio ei gystadleuydd i ornest farwol (duel)[3].
Act III
golyguMae Violetta ar fin marw. Mae ei ffrind olaf, Doctor Grenvil, yn gwybod nad oes ganddi ond ychydig oriau i fyw. Mae tad Alfredo wedi ysgrifennu at Violetta, gan ddweud wrthi na chafodd ei fab ei anafu yn yr ornest. Yn llawn edifeirwch, mae Germont wedi dweud wrth ei fab am aberth Violetta. Mae Alfredo am ail uno â hi cyn gynted ag y bo modd. Mae Violetta yn ofni y gallai fod yn rhy hwyr. Clywir sŵn dathliadau mawr y tu allan tra bod Violetta mewn gwewyr marwol. Ond mae Alfredo yn cyrraedd ac mae'r aduniad yn llenwi Violetta gyda chariad. Mae hi'n teimlo llawn bywyd o'r newydd. Mae pob tristwch a dioddefaint yn ymddangos fel ei bod wedi ymadael a hi - ond dim ond rhith terfynol ydyw, cyn i farwolaeth ei threchu.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Holden, Amanda (ed.), The New Penguin Opera Guide, New York: Penguin Putnam, 2001, p. 995. ISBN 0-140-29312-4
- ↑ "Synopsis: La Traviata". The Metropolitan Opera.
- ↑ "Britannica - La traviata". Britannica. Cyrchwyd 17/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help)
Dolenni allanol
golygu- Opera Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru: Golwg ar Opera; La traviata. Adnodd i athrawon, cyflwyno opera i mewn i'r dosbarth CA3 a CA4 Archifwyd 2021-02-25 yn y Peiriant Wayback