Lagonda (Aston Martin)
Math o gar trydan moethus a gaiff ei gynhyrchu yn 2021 gan Aston Martin yw'r Lagonda. Mae'r enw 'Lagonda' yn mynd nôl i 1909 (neu o bosib 1906) pan gychwynodd y canwr opera Wilbur Gunn gwmni ceir. Enwodd Gunn ei gwmni ar ôl afon a lifai drwy'r ardal lle'i maged yn Springfield, Ohio. Prynnwyd y cwmni gan Aston Martin yn 1947 ac ers hynny, rhyddhawyd sawl car o dan yr enw yma: yn 1995 hyd at 2008 a rhwng 2010 a 2013.[1][2]
Math o gyfrwng | auto racing team, cynhyrchydd cerbydau, cwmni cyhoeddus, car brand |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1901 |
Perchennog | Aston Martin |
Sylfaenydd | Wilbur Gunn |
Rhiant sefydliad | Aston Martin |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
Pencadlys | Staines-upon-Thames |
Gwefan | https://www.astonmartinlagonda.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y car diweddaraf
golyguVision concept yw'r car ar hyn o bryd (2018), hy car sydd wedi'i gynllunio ac sydd ar y gweill. Mae'r cynllun yn un sy'n cystadlu gyda chwmni Tesla, a does dim rhyfedd i sefydlydd Tesla, Elon Musk alw Aston Martin yn "a 110 year old start-up". Dywedir y bydd y car yn medru teithio am 400 milltir cyn fod yn rhaid gwefru'r batris, a'u gwefru yn ddi-wifr hyn heb weiren. Cynlluniwyd y tu mewn i'r car gan David Armstrong-Jones, mab y ffotograffydd Antony Armstrong-Jones.
Y ceir cynnar
golyguYn 1907 lansiodd Wilbur Gunn ei gar cyntaf, y Torpedo, gyda nerth 20 marchnerth a 6-silindr, a ddefnyddiodd i ennill ras 'Moscow-Sant Petersburg' yn 1910. Yn dilyn y llwyddiant hwn cafwyd llawer o archebion o Rwsia - hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.[3][4]
-
Lagonda 16/65, 1927
-
Lagonda 16 80, 1930au
-
Lagonda M45 T9 Rapide. 1934
-
Lagonda V12 Drophead Coupé, 1940
Fodd bynnag, aeth yr hwch drwy'r siop yn 1935 a phrynnwyd y cwmni gan Alan P. Good. Efallai mai uchafbwynt y cyfnod a ddilynodd yr ailbrynnu hwn oedd yn 1937 pan lansiwyd car 4480 cc gyda marchnerth o 180 bhp (130 kW) a allai gyflymu o 7 i 105 mya (11 i 169 km/h) yn y ger uchaf gan refio i 5000 rpm. Fe'i arddangoswyd yn Sioe Geir Efrog Newydd yn 1939 a gwerhwyd ef am $8,900 - y car drytaf ledled y byd, yn ei gyfnod.
Aston Martin
golyguYm 1947 cafodd Lagonda ac Aston Martin eu prynnu gan David Brown (cwmni o Loegr a oedd yn arbenigo mewn tractors, cychod y rhannau o beiriannau) ac unwyd staff Lagonda gydag Aston Martin yn eu ffatri yn Feltham, Middlesex.
-
Lagonda 2.6, 1953
-
Lagonda Rapide, 1964
-
Aston Martin Lagonda Sports Sedan, 1989
Yr atgyfodiad
golyguCeisiwyd atgyfodi'r marque (y brand) sawl tro gan gynnwys:
- Yn Sioe Modur Genefa 2009, dadorchuddiodd Aston Martin 4VD, SUV 4-sedd i goffáu 100 mlynedd ers car cyntaf Lagonda. Roedd gan y car beiriant V12 ac olwynion 22 modfedd.[5]
- Bedyddiwyd un model o wneuthuriad Aston Martin gyda'r hen enw Rapide yn 2010, sef yr Aston Martin Rapide.
- Yn 2014, cyhoeddodd Aston Martin y bydden nhw'n cynhyrchu nifer cyfyngedig o 200 salwn o'r enw'r Taraf am tua £1 miliwn yr uned, wedi'i bweru gan Tyrbo Dwbwl V12 a allai gynhyrchu 540 HP a 465 lb-tr o drorym (torque).
- Yn 2018 cyhoeddwyd y bydden nhw'n cynhyrchu car trydan (gweler uchod).
Modelau
golyguBlwyddyn | Math | Injan | Cynhyrchwyd |
---|---|---|---|
1906–13 | 20 | 3052 cc | |
1911–13 | 30 | 4578 cc | |
1913–21 | 11 | 1099 cc | 6000 [6] |
1920–23 | 11.9 | 1421 cc | 6000 ( |
1923–26 | 12 and 12/24 | 1421 cc | 6000 |
1925–33 | 14/60 | 1954 cc | 1440[6] |
1926–30 | 16/65 | 2389 | 250[6] |
1928–34 | 3-litre | 2931 cc | 570[6] |
1932–34 | Lagonda 16/80 | 1991 cc | 260[7] |
1933–38 | Rapier | 1087 cc | 470 + 45 gan Rapier Cars[8] |
1935 | M45 | 4467 cc | 410 + 53 M45R Rapide[8] |
1935 | 3.5-litre | 3619 cc | 65[8] |
1936–37 | LG45 | 4467 cc | 278 + 25 Rapides[8] |
1938–40 | Lagonda LG6 | 4467 cc | 85[8] |
1938–40 | Lagonda V12 | 4480 cc | 189[8] |
1948–53 | 2.6-Litre | 2580 cc | 510[9] |
1953–58 | Lagonda 3-Litr | 2922 cc | 270[9] |
1961–64 | Rapide | 3995 cc | 55[9] |
1976–89 | Aston Martin Lagonda | 5340 cc ohc V8 | 645 |
2014– | Taraf | 5935 cc V12 | 200[10] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ G.N. Georgano, N. (2000). Beaulieu Encyclopedia of the Automobile. HMSO. ISBN 1-57958-293-1.
- ↑ "Nachtschicht im Schloss: A report on a concours d'elegance at Schloss Bensberg". Auto Motor u. Sport Heft 25 2010: 45. 18 Tachwedd 2010.
- ↑ "My kind of car: Lagonda 16/80 1932". Drive (Magazine of the British Automobile Association) 115: 66. February 1985.
- ↑ "British Tradition from an American". The World of Automobiles. 10. Columbia House. 1974. t. 1129.
- ↑ Lavrinc, Damon (4 Mawrth 2009). "Geneva 2009: Aston Martin revives Lagonda to questionable effect". Autoblog.com. Cyrchwyd 2010-12-25.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 Baldwin, N. (1994). A-Z of Cars of the 1920s. Bay View Books. ISBN 1-870979-53-2.
- ↑ G.N. Georgano, G. N. (1968). The Complete Encyclopaedia of Motor Cars. George Rainbird Limited.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 Sedgwick, M. (1989). A-Z of Cars of the 1930s. Devon, UK: Bay View Books. ISBN 1-870979-38-9.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Sedgwick, M. (1986). A-Z of Cars 1945–1970. Bay View Books. ISBN 1-870979-39-7.
- ↑ [1]