Mae Larry (ganed c. Ionawr 2007) yn gath frech Brydeinig sydd wedi bod yn Brif Llygotwr Swyddfa'r Cabinet yn 10 Stryd Downing, Llundain ers 2011. Mae'n derbyn gofal gan staff Stryd Downing ac nid yw'n eiddo personol i brif weinidog y Deyrnas Unedig . Mae Larry wedi byw yn 10 Stryd Downing yn ystod cyfnodau chwech prif weinidog: David Cameron, Theresa May, Boris Johnson, Liz Truss, Rishi Sunak a Keir Starmer

Larry y gath
Ganwydc. Ionawr 2007 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswyl10 Stryd Downing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmouser Edit this on Wikidata
SwyddChief Mouser to the Cabinet Office Edit this on Wikidata
RhagflaenyddSybil, Freya Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar

golygu

Ganed Larry yn gath strae tua Ionawr 2007 ac yn ddiweddarach daeth i feddiant Cartref Cŵn a Chathod Battersea. Yn 2011, cafodd ei fabwysiadu gan staff Downing Street, yn wreiddiol fel anifail anwes i blant Cameron.[1] Fe'i disgrifiwyd gan ffynonellau Downing Street fel "helwr da" ac fel un â "greddf hela uchel".[2] Yn 2012, dywedodd Cartref Cŵn a Chathod Battersea fod cyhoeddusrwydd am Larry wedi arwain at gynnydd o 15% mewn mabwysiadau cathod.[3]

Yn fuan wedi iddo ymgartrefu yn Stryd Downing, roedd sïon yn y wasg yn honni bod Larry yn gath a oedd wedi mynd ar goll a bod ei berchennog gwreiddiol wedi dechrau ymgyrch i'w gael yn ôl.[4] Fodd bynnag, canfuwyd yn ddiweddarach bod y stori yn ffug, ac nid oedd unrhyw berchennog nac ymgyrch o'r fath yn bodoli.[5]

Dyletswyddau Swyddogol

golygu
 

Mae gwefan Stryd Downing yn disgrifio dyletswyddau Larry fel "cyfarch gwesteion i'r tŷ, archwilio amddiffynfeydd diogelwch a phrofi dodrefn hynafol am ansawdd napio".[6] Mae'n dweud ei fod yn "ystyried datrysiadau i broblem llygod y tŷ" a'i fod dal ar y "cam cynllunio tactegol".[7] Yn wahanol i'w ragflaenwyr ers 1929, mae costau Larry yn cael eu hariannu'n wirfoddol gan aelodau o staff Stryd Downing.[8] Credir bod digwyddiadau codi arian i dalu am ei fwyd wedi cynnwys noson gwis.[9] Eglurodd David Cameron yn ystod ei sesiwn gwestiynau olaf fel Prif Weinidog yn 2016 mai gwas sifil yw Larry ac nid ei eiddo personol, ac felly na fyddai Larry yn gadael Stryd Downing ar ymadawiad Cameron.[10] Mae Larry wedi cadw ei swydd trwy gyfnodau May, Johnson, Truss, Sunak, a Starmer.

Gwaith fel prif lygotwr

golygu

O fewn mis iddo gyrraedd Stryd Downing disgrifiwyd Larry, gan ffynonellau dienw, fel un â “diffyg greddf lladd.”[11] Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, datgelwyd bod Larry yn treulio mwy o amser yn cysgu nag yn hela am lygod, ac yn mwynhau cwmni cath fenywaidd o'r enw Maisie.[12] Ar un adeg yn 2011, roedd gymaint o lygod yn Stryd Downing nes i’r Prif Weinidog, David Cameron, daflu fforc at un ohonnynt yn ystod cinio Cabinet.[12] Enillodd Larry y llysenw "Lazy Larry" oddi wrth y wasg boblogaidd.[13] Lladdodd ei lygoden gyntaf ar 22 Ebrill 2011.[14] Ar 28 Awst 2012, lladdodd Larry ysglyfaeth yn cyhoeddus am y tro cyntaf, gan ollwng llygoden ar y lawnt o flaen Rhif 10.[15] Ym mis Medi 2012, penodwyd Freya hefyd yn Brif Llygotwr i Swyddfa'r Cabinet. Ym mis Hydref 2013, daliodd Larry bedair llygoden mewn pythefnos ac achubwyd un gan aelod o staff.[16]

Yn mis Gorffennaf 2015, daliwyd llygoden gan George Osborne, Canghellor y Trysorlys, a Matt Hancock, gweinidog Swyddfa’r Cabinet mewn bag brechdanau papur brown yn swyddfa'r canghellor. Roedd y wasg yn tynnu coes gan ddweud y gallai Osborne gymryd drosodd swydd y Prif Lygotwr.[17]

Iechyd

golygu

Yn mis Medi 2023, adroddodd The Sun fod Larry wedi bod yn sâl ers peth amser a bod staff Stryd Downing yn paratoi ar gyfer ei farwolaeth.[18] Gwadwyd hyn mewn datganiad gan Stryd Downing a ddisgrifiodd Larry fel un "hapus ac iach."[19]

Delwedd gyhoeddus

golygu

Cyn etholiad cyffredinol Gorffennaf 2024, dangosodd arolwg barn gan Ipsos fod gan Larry sgôr poblogrwydd uwch na'r prif weinidog ar y pryd Rishi Sunak ac na'r arweinydd Llafur Keir Starmer.[20]

Perthynas â gwleidyddion

golygu
 
Larry gyda'r Prif Weinidog David Cameron ac arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama

Mae David Cameron wedi dweud bod Larry “ychydig yn nerfus” o gwmpas dynion, gan ddyfalu, gan i Larry fod yn gath achub, y gallai hyn fod oherwydd profiadau negyddol yn ei orffennol. Soniodd Cameron fod Barack Obama yn eithriad amlwg i'r ofn hwn: dywedodd, "Yn ddigon rhyfedd ei fod yn hoffi Obama. Rhoddodd Obama fwythau iddo ac roedd yn iawn gydag Obama." [21]

Ym mis Medi 2013, dywedwyd bod tensiynau'n cynyddu rhwng Cameron a Larry. Adroddwyd bod Cameron yn anfodlon cael blew cath ar ei siwt a bu'n rhaid cuddio arogl bwyd cath pan oedd ymwelwyr yn Stryd Downing. Dywedwyd nad oedd y Cameroniaid yn hoffi Larry, ac awgrymwyd bod yr anifail anwes yn brop cysylltiadau cyhoeddus. Cyhoeddodd Cameron ar Twitter ei fod ef a Larry yn cyd-dynnu’n “burr-fectly well”. Serch hynny, gwnaeth y bwci Ladbrokes Cameron y ffefryn (1/2) i adael Stryd Downing yn gyntaf, gyda Larry ar 6/4. Awgrymodd y Daily Telegraph nad oedd Cameron erioed wedi hoffi cathod ond bod ei gynghorwyr yn credu y gallai Larry wella ei ddelwedd gyhoeddus.[22] Wrth adael ei swydd yn 2016, soniodd Cameron am ei “dristwch” na allai fynd â Larry gydag ef.[23] [24] Pan olynodd Theresa May ef yn 2016, roedd pryderon bod Larry dan straen ac y gallai fod yn colli teulu Cameron.[25]

 
Mae Larry (chwith) yn gorwedd ar silff ffenestr 10 Stryd Downing yn ystod ymweliad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump

Ym mis Awst 2016, ymatebodd Alistair Graham, cyn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, i ddadl ynghylch ffafriaeth yn Rhestr Anrhydeddau Cameron trwy gellwair ei fod “wedi synnu na chafodd Larr y gath un”.[26] Ym mis Mehefin 2019, yn yr hyn a ddisgrifiwyd yn y wasg fel ffotobomio, gwelwyd Larry ar y silff ffenestr y tu allan i Rif 10 wrth i Theresa May a'i gŵr Philip May sefyll i dynnu llun gydag arlywydd yr UD Donald Trump a'r Brif Foneddiges Melania Trump ar ddechrau ymweliad Trump â'r Deyrnas Unedig; yn ddiweddarach cysgododd Larry rhag y glaw o dan gar swyddogol Trump a dim ond ar ôl peth amser y cafodd ei berswadio allan.[27] [28]

Yn fuan ar ôl cyhoeddiad annisgwyl Rishi Sunak y byddai etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024, gwelwyd Larry yn y glaw trwm yn aros yn amyneddgar i fynd mewn i Rif 10. Er bod Sunak yn amlwg yn wlyb at ei groen, roedd Larry i weld wedi osgoi'r glaw.[29]

Perthynas ag anifeiliaid eraill

golygu

Ym mis Mehefin 2012, cafodd canghellor y Trysorlys George Osborne hyd i'w gath goll Freya, a symudodd i 11 Stryd Downing . Dywedwyd bod Freya a Larry wedi wedi dod yn ffrindiau yn gyflym, er bod y ddwy gath wedi'u gweld yn ymladd.[30] Dywedwyd mai Freya oedd y gath gryfaf a'r llygotwraig fwyaf effeithiol, yn ôl y sôn oherwydd bod ei dyddiau fel strae wedi ei " chaledu".[31] Ym mis Tachwedd 2014, gadawodd Freya Stryd Downing, gan adael Larry yn llwyr gyfrifol am lygota.[32] Yn 2013 daeth Osborne â chi anwes, Lola i'r tŷ. Cyhoeddodd y staff fod Lola yn "gyfeillgar i gathod".[33]

 
Larry gyda Boris Johnson yn 2019

Ym mis Medi 2019, daeth ci newydd o'r enw Dilyn, oedd yn eiddo i Boris Johnson a Carrie Symonds, i fyw yn Stryd Downing. Cynigiodd Cartref Cŵn a Chathod Battersea gyngor ar sut gallai Larry fyw gyda ci.[34] Ym mis Rhagfyr 2020, helodd Larry golomen y tu allan i breswylfa swyddogol Boris Johnson, ond er gwaethaf yr ymosodiad a oedd yn ymddangos yn effeithiol, llwyddodd y golomen i hedfan i ffwrdd, yn ddianaf i bob golwg.[35] Ym mis Hydref 2022, erlidiodd Larry lwynog o'r tu allan i 10 Stryd Downing, a daliwyd y digwyddiad ar deledu cylch cyfyng.[36]

Ym mis Mehefin 2021, mabwysiadodd canghellor y Trysorlys ar y pryd Rishi Sunak gi bach Labrador Retriever o'r enw Nova, a ddaeth i fyw yn 11 Stryd Downing.[37] Ym mis Medi 2023, dywedodd Akshata Murty, gwraig Sunak, fod Larry a Nova wedi ffraeo a bod Larry wedi dod i’r brig. [38]

Yn ystod cyfweliad personol ar BBC Radio Derby, soniodd Keir Starmer fod gan deulu Starmer gach achub o'r enw JoJo.[39] Mae elusenCats Protection wedi cynnig cyngor i deulu Starmer ar sut i wneud perthynas Larry a Jojo yn un gyfeillgar.[40]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Glen Oglaza "The Cat's Whiskers" Error in webarchive template: Check |url= value. Empty., Sky News, 15 February 2011.
  2. "Larry the cat to join David Cameron in Downing Street". BBC News. 15 February 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 February 2011. Cyrchwyd 15 February 2011.
  3. Cunliffe, Mark (24 July 2019). "Larry The Downing Street Cat: Will He Live With Boris Johnson at Number 10?". LADBible. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-26. Cyrchwyd 16 February 2023.
  4. Nissim, Mayer (23 February 2011). "David Cameron 'stole cat for Number 10'". Digital Spy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 November 2022. Cyrchwyd 23 February 2011.
  5. Lewis, Paul (23 February 2011). "Churnalism or news? How PRs have taken over the media". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 February 2014. Cyrchwyd 23 February 2011.
  6. "History of 10 Downing Street - GOV.UK". archive.ph. 2023-05-03. Cyrchwyd 2024-07-07.
  7. "History: 10 Downing Street". Gov.UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2013. Cyrchwyd 14 July 2016.
  8. Prince, Rosa (15 February 2011). "Larry the cat is installed as Downing Street Chief Mouser". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 April 2011. Cyrchwyd 13 September 2011.
  9. Kennedy, Maev (7 September 2011). "Larry the cat fundraiser quiz night to be held at No 10". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2013. Cyrchwyd 13 September 2011.
  10. Millward, David (9 August 2016). "David Cameron should save Larry the cat from his lonely life in Downing Street". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2017. Cyrchwyd 2 April 2018.
  11. Prince, Rosa (28 February 2011). "Downing Street defends Larry the cat from anonymous briefing". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 March 2011. Cyrchwyd 28 February 2011.
  12. 12.0 12.1 "Downing Street cat Larry caught napping". BBC News. 15 November 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2018. Cyrchwyd 20 July 2018.
  13. "A softer side of government: How Larry the cat became a purr-fect political companion on Downing Street | CBC News". CBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 February 2017. Cyrchwyd 20 November 2018.
  14. Stratton, Allegra (24 April 2011). "Larry the No 10 cat catches first mouse ... finally". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2017. Cyrchwyd 10 June 2017.
  15. "Larry the Downing Street cat finally kills first rodent". ITV News. 28 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 June 2021.
  16. McSmith, Andy (18 October 2013). "Andy McSmith's Diary: Even Larry the cat is not safe from factions in Downing Street". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2017. Cyrchwyd 15 December 2017.
  17. "2 senior UK ministers hunt down rat during budget meeting". dna. 5 July 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2016. Cyrchwyd 15 March 2016.
  18. Quinn, Chay (23 September 2023). "Downing Street's pet cat Larry in 'ill-health' as officials plan protocol in case of chief mouser's death". lbc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2023. Cyrchwyd 24 September 2023.
  19. "Larry the Cat 'happy and healthy' after reports that he was seriously unwell". ITV News. 25 September 2023. Cyrchwyd 25 September 2023.
  20. "Larry the cat has higher favourability rankings than either Rishi Sunak or Keir Starmer". Ipsos. 4 July 2024. Cyrchwyd 5 July 2024.
  21. "Number 10 cat Larry catches three mice". BBC News. 20 June 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2011. Cyrchwyd 20 June 2011.
  22. Kirkup, James (12 July 2016). "David Cameron's worst lie is finally revealed: Larry the cat". Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 July 2016. Cyrchwyd 12 July 2016.
  23. Swinford, Steven (13 July 2016). "David Cameron: I do love Larry the cat and I can prove it". Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 August 2018. Cyrchwyd 2 April 2018.
  24. Saul, Heather (13 July 2016). "David Cameron: The surprising description of him that he 'hated'". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2017. Cyrchwyd 15 December 2017.
  25. "Larry the cat makes Whitehall comeback after vet repairs his battle wounds". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2018. Cyrchwyd 2 April 2018.
  26. Horton, Helena (August 2016). "People are outraged Larry the Cat isn't on David Cameron's honours list". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 November 2018. Cyrchwyd 2 April 2018.
  27. Horton, Alex (4 June 2019). "Larry the Downing Street cat parks himself under Trump limo". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2019 – drwy San Francisco Chronicle.
  28. Moran, Lee (4 June 2019). "Larry the Downing Street Cat Goes All Passive-Aggressive on Donald Trump". Huffington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 June 2019. Cyrchwyd 5 June 2019.
  29. Anglesey, Anders (2024-05-22). "Sunak's General Election announcement hijacked by fan favourite Larry the cat". The Mirror (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-06.
  30. Prince, Rosa (16 October 2012). "Police called to break up violent cat fight in Downing Street". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2018. Cyrchwyd 2 April 2018.
  31. Parkinson, Justin (16 October 2012). "Downing Street denies Cameron and Osborne cat feud". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 October 2012. Cyrchwyd 16 October 2012.
  32. Dearden, Lizzie (9 November 2014). "George Osborne's family cat Freya sent away from Downing Street to Kent". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2014. Cyrchwyd 15 March 2016.
  33. "Lola the dog joins George Osborne in Downing Street". BBC News. Cyrchwyd 24 September 2023.
  34. Andrew Kersley (2 September 2019), "Will Larry cope with Dilyn in Downing Street? Here's Battersea's advice on introducing dogs and cats", i, https://inews.co.uk/inews-lifestyle/larry-dilyn-cat-dog-no-10-downing-street-battersea-advice/, adalwyd 15 September 2019
  35. "Brexit tensions turn deadly as Larry the cat tries to kill pigeon", i, 24 December 2020, https://metro.co.uk/2020/12/24/larry-the-cat-breaks-brexit-downing-street-tension-by-catching-pigeon-13802477/, adalwyd 26 December 2020
  36. Grierson, Jamie (11 October 2022). "Larry the cat takes on fox outside No 10". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2022. Cyrchwyd 11 October 2022.
  37. "Chancellor Rishi Sunak introduces his new dog Nova". Sky News. 1 July 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2023. Cyrchwyd 24 September 2023.
  38. "Akshata Murty gives update on Larry the Cat in first interview about life at Downing Street". Sky News. 22 September 2023. Cyrchwyd 24 September 2023.
  39. "Keir Starmer | Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-07-05.
  40. "Tips to help new Downing Street cat | Press Release | Cats Protection". www.cats.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-05.