Leó Szilárd
Ffisegydd o Hwngari a ymfudai i Unol Daleithiau America oedd Leó Szilárd (11 Chwefror 1898 – 30 Mai 1964) sydd yn nodedig am lunio'r adwaith cadwynol niwclear ac am ei ran ym Mhrosiect Manhattan.
Leó Szilárd | |
---|---|
Leó Szilárd, tua 1960 | |
Ganwyd | 11 Chwefror 1898 Budapest |
Bu farw | 30 Mai 1964 San Diego |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | gwyddonydd niwclear, dyfeisiwr, ffisegydd, academydd, gwyddonydd, biolegydd ym maes molecwlau |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr |
llofnod |
Ganed ef yn Budapest, Teyrnas Hwngari. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i'r Almaen ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Friedrich Wilhelm ym 1922. Wedi i'r Natsïaid gipio grym ym 1933, aeth Szilárd i Fienna, ac ym 1934 i Lundain. Ymunodd ag adran ffiseg ysbyty athrofaol St Bartholomew's, a chyda T. A. Chalmers datblygodd y dull cyntaf o ddatgysylltu isotopau o elfennau ymbelydrol artiffisial.
Aeth Szilárd i'r Unol Daleithiau ym 1937 ac addysgodd ym Mhrifysgol Columbia. Ym 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, llwyddodd Szilárd a Eugene Wigner i ddwyn perswâd ar Albert Einstein i hysbysu llywodraeth yr Unol Daleithiau am ddichonoldeb yr adwaith cadwynol niwclear, ac ysgrifennodd Szilárd lythyr, a arwyddwyd gan Einstein, i'r Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn erfyn arno i ddatblygu'r bom atomig. O 1942 hyd at ddiwedd y rhyfel bu Szilárd yn arwain ymchwil niwclear ym Mhrifysgol Chicago, gan gynnwys cynorthwyo Enrico Fermi i adeiladu'r adweithydd niwclear cyntaf. Ym 1946 penodwyd Szilárd yn athro bioffiseg ym Mhrifysgol Chicago.
Wedi diwedd y rhyfel, ymgyrchodd Szilárd dros allu heddychlon yr atom a chyfyngiadau rhyngwladol ar arfau niwclear. Szilárd oedd un o sefydlwyr y Bulletin of Atomic Scientists ym 1945, a derbyniodd wobr Atoms for Peace ym 1959. Sefydlodd y Council for a Livable World ym 1962. Bu farw Leó Szilárd yn La Jolla, Califfornia, yn 66 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Leo Szilard. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2021.