Legio VIII Augusta

Lleng Rufeinig oedd Legio VIII Augusta. Ffurfiwyd y lleng gan Iŵl Cesar tua 59 CC, ac ymladdodd drosto yn ei ryfeloedd yng Ngâl, gan gael yr enw Gallica. Chwalwyd y lleng wedi diwedd rhyfeloedd Cesar, ond yn 44 CC, fe'o hail-ffurfiwyd gan Octavianus, yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus.

Aureus a fathwyd yn 193 gan Septimius Severus er anrhydedd i Legio VIII Augusta.

O 9 O.C. ymlaen, roedd ei gwersyll yn Poetovio (Ptuj) heddiw) yn nhalaith Pannonia. Yn 14, gwrthryfelodd ynghyd â Legio IX Hispana a Legio XV Apollinaris pan ddaeth y newyddion am farw Augustus, ond llwyddodd Drusus minor, mab yr ymerawdwr newydd Tiberius, i'w galw'n ôl at eu teyrngarwch. Tua 45, roedd y lleng yn Novae yn Moesia. Yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, rhoesant ei cefnogaeth i Otho, yna wedi ei farwolaeth ef i Vespasian, ac ymladdasant dan Cerialis yn erbyn y Batafiaid. Wedi hynny, roedd eu gwersyll yn Argentorate (Strasbourg heddiw). Ymladdasant yn erbyn y Parthiaid dan Septimius Severus a'i olynwyr.