Leila Megàne
cantores opera Cymreig
(Ailgyfeiriad o Leila Megane)
Cantores opera mezzo-soprano fyd-enwog o Bwllheli, Gwynedd oedd Leila Megane (1891 – 2 Ionawr 1960).[1]
Leila Megàne | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1891 Bethesda |
Bu farw | 2 Ionawr 1960 Efailnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | mezzo-soprano |
Priod | Thomas Osborne Roberts |
Plant | Effie Isaura Osborne Hughes |
Fe'i bedyddiwyd yn Margaret Jones ym Methesda yn yr hen Sir Gaernarfon, a phriododd T. Osborne Roberts (1879–1948), a oedd yn gyfansoddwr. Canodd ar lwyfannau mwya'r byd: Paris, Milan, Rhufain, Efrog Newydd, a Llundain.[2]
Ar 11 Hydref 1922 gwnaeth y recordiad cyflawn cyntaf o Sea Pictures gyda'r cyfansoddwr Edward Elgar yn arwain. Ar 12 Tachwedd canodd am y tro diwethaf a hynny yn Neuad y Dref, Pwllheli.
Recordiadau
golygu- Y Nefoedd a Chaneuon Eraill, Sain SCD2316 (2001)
Mae'r canlynol yn cynnwys caneuon ganddi:
- Bantock, "Lament Of Isis", o Songs Of Egypt, Bantock: Historical Recordings, Dutton CDLX7043
- Edward Elgar, Sea Pictures, The Elgar Edition, Pavilion GEMMCDS 9951–5
- T. Osborne Roberts, "Pistyll y llan", Darlun fy mam / The best of Welsh female soloists, Sain SCDC2109
Llyfryddiaeth
golygu- E. Wyn James, "'Osborne Druan!'": Gohebiaeth R. Williams Parry a Leila Megane", Taliesin 99 (1997): 32–52
- Ilid Anne Jones, Leila Megàne 1891–1960: Anwylyn Cenedl (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
- Megan Lloyd-Ellis, Hyfrydlais Leila Megane (Llandysul: Gwasg Gomer, 1979)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Obituary The Times, 4 Ionawr 1960
- ↑ Y Gantores Ysbrydegol. bbc.co.uk. Adalwyd ar 12 Rhagfyr, 2001.
Dolenni allanol
golygu- Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru Archifwyd 2006-08-23 yn y Peiriant Wayback
- Y gantores ysbrydegol: Llyfr am Leila Megane yn dwyn atgofion, BBC Cymru
- Bywgraffiad gan Sain Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru (y cyntaf o bum ffotograff)
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru[dolen farw] (manylion catalog o baentiad ohoni gan Frederick Samuel Beaumont)