Leon McAffrey

cymeriad fideo GTA

Mae Leon McAffrey yn gymeriad sy'n ymddangos mewn dwy gêm [1] yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto. Mae'n ymddangosodd fel cymeriad bach yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001) a phrif gymeriad yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (a osodwyd ym 1998). Mae McAffrey yn swyddog heddlu llygredig[2] sy'n gweithio gydag Salvatore Leone, Don (pennaeth) syndicâd maffia Teulu Leone, a Toni Cipriani, un o brif aelodau'r un syndicâd.

Leon McAffrey yn Liberty City Stories

Ganed Leon McAffrey ym 1956 a'i magu yn Liberty City. Ymunodd ag Adran Heddlu Liberty City gan droi'n swyddog llygredig sy'n cael ei gyflogi gan Salvatore.

Mae'n debyg ei fod wedi lladd rhai o'i gynbartneriaid, gan gynnwys un oedd â gwraig a phlant. Mae ganddo, hefyd, gysylltiadau yn yr Eidal a oedd yn rhoi gwybodaeth iddo am weithgaredd y maffia yn y wlad honno.

Mae cymeriad Leon McAffrey yn cael ei leisio gan Ron Orbach.[3][4]

Leon yn Liberty City stories golygu

Ym 1998 bu Leon mewn anghydfod gyda Ned Burner, newyddiadurwr ar bapur y Liberty Tree. Roedd yn honni bod Ned mewn dyled ariannol iddo. Yn ôl Leon, roedd Ned wedi cytuno i dalu $ 20,000 iddo am ffafr anhysbys, ond dim ond $ 5000 cafodd ei dalu iddo. O ganlyniad i hynny, anfonodd e-bost i Ned yn bygwth ei ladd heb orfod poeni am gael ei erlyn am wneud gan ei fod yn rheoli cyfraith a threfn yn y ddinas. Roedd Ned yn dadlau bod yr $ 20,000 y cytunwyd arni fel tal am bedwar stori i'w gyhoeddi, ond bod Leon wedi anfon dim ond un. Roedd y $5000, gan hynny yn gyfrannol.

Mae McAffrey yn cael ei gyflwyno i Toni Cipriani. Mae'n rhoi tasg i Toni i ladd aelodau o Deulu Sindacco aelodau o syndicâd maffia elyniaethus i Deulu Leone. Mae o'n gorfod twyllo syndicâd gelyniaethus arall, y Teulu Forelli, er mwyn iddynt gael eu dal mewn cudd ymosodiad gan yr Uptown Yardies. Ymladd yn erbyn nifer fawr o aelodau Teulu Forelli ym Mharc Belleville a dinistrio arfau teulu Forelli sydd yn cael eu trosglwyddo i leoliad newydd mewn faniau.[5]

Yn dilyn arestio Salvatore Leone, mae Leon yn ffonio Toni i ddweud nad oedd y ddau byth wedi cyfarfod, gan dorri cysylltiad â Theulu Leone.[6]

Leon yn GTA III golygu

Mae McAffrey yn parhau i weithio gyda'r LCPD a chyda'i bartner newydd, Ray Machowski, swyddog heddlu gonest i ddechrau, bydd yn troi'n llygredig wedyn. Daw ei droseddau a'i gysylltiadau â throseddu cyfundrefnol yn hysbys i'r LCPD. Er mwyn osgoi cael cosb am ei lygredigaeth mae'n cytuno i roi tystiolaeth yn erbyn Machowski,[7] sydd bellach yn gweithio i'r gang Japaneaidd, y Yakuza. O ganfod bod McCaffrey am roi tystiolaeth yn ei erbyn mae Machowski yn anfon Claude, prif gymeriad y gêm, i'w ladd. Mae McAffrey yn goroesi ymgais Claude i'w lladd ond yn cael ei anafu'n drwm. Wedi clywed ei fod dal ar dir y byw mae Machowski yn orchymyn Claude i ddarfod y job. Mae Claude yn llwyddo yn yr ail ymgais ac mae Leon yn cael ei ladd.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Giant Bomb - Leon McAffrey adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  2. Fandom-Leon McAffrey adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  3. Ron Orbach ar IMDb adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  4. VOICE OF LEON MCAFFREY adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  5. GTA WIKI Leon_McAffrey adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  6. Leon McAffrey Archifwyd 2018-07-19 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  7. Machowski: "That scumbag McAffrey, he took more bribes than anyone! He thinks that he's gonna get an honorable discharge if he turns state's evidence. He just squealed!" (Ffilm cyflwyno'r dasg "Silence the Sneak", Grand Theft Auto III.)
  8. GTA 3 - Walkthrough - Mission #45 - Plaster Blaster adalwyd 20 Gorffennaf 2018