Lewis Holme Lewis
Pensaer a pheirianwr sifil o Gymro oedd Lewis Holme Lewis (1866 – 3 Ebrill 1955).
Lewis Holme Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1866 Pencader |
Bu farw | 3 Ebrill 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil |
Bywyd cynnar
golyguFe'i ganwyd yn Sir Gaerfyrddin a mynychodd Ysgol Ramadeg Pencader, Ysgol Wyddonol Caer a Phrifysgol Lerpwl.[1] Roedd yn frawd i Howell Elvet Lewis (Elfed).
Gyrfa
golyguGweithiodd fel prentis gyda chmwni Hydraulic Engineering yng Nghaer, ac yn 1888 fe'i apwyntiwyd yn rheolwr peiriannyddol cangen y cwmni yn Lerpwl cyn rheoli cangen Llundain rhwng 1891 a 1895. Ymunodd a chwmni Manchester Corporation yn 1895 fel prif beiriannydd a rheolwr y cyflenwad pŵer hydrolig. Deng mlynedd yn ddiweddarach yn 1905 fe'i apwyntiwyd yn prif beiriannydd a rheolwr Manchester Corporation Waterworks a parhaodd yn y swydd hyn hyd ei ymddeoliad yn 1931. Roedd yn gyfrifol am ddylunio y gronfa ddŵr anferth, yr Hawes Water Dam a roedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu a ddechreuodd yn 1929 gan barhau i oruchwylio'r gwaith hwn wedi ei ymddeoliad.[1][2]
Cafodd y cyfrifoldeb o gynllunio'r lifft cyntaf erioed i gael ei osod ym Mhalas Buckingham.[3]
Yn 1926, fe'i etholwyd yn lywydd Sefydliad y Peiriannwyr Dŵr.[1]
Mae'n perthyn i'r cricedwr Tony Lewis.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Lewis Holme Lewis. Grace's Guide. Adalwyd ar 3 Mehefin 2016.
- ↑ http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=4
- ↑ Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000
- ↑ Tony Lewis (2003). Taking Fresh Guard. Hachette. URL
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Haweswater