Leyla Zana
Gwleidydd Cyrdaidd benywaidd yw Leyla Zana (ganed 3 Mai 1961 yn Diyarbakir, dwyrain Twrci/Cyrdistan Twrcaidd), a garcharwyd am siarad ei mamiaith, Cwrdeg, yn Senedd Twrci a hefyd, yn ddiweddarach, am ei gweithgareddau gwleidyddol o blaid y Cyrdiaid a Cyrdistan a ystyrir yn groes i undod Twrci gan y llywodraeth. Mae hi'n cael ei hystyried gan rai yn un o brif lefarwyr y mudiad dros hawliau ieithyddol a dinesig y Cyrdiaid yn Nhwrci ac yn weithiwr diflino dros hawliau dynol ei phobl.
Leyla Zana | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1961 Silvan |
Dinasyddiaeth | Twrci |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd, llenor, newyddiadurwr |
Swydd | Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci, Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci, Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci, Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci |
Plaid Wleidyddol | Social Democratic Populist Party, People's Democracy Party |
Priod | Mehdi Zana |
Gwobr/au | Gwobr Goffa Thorolf Rafto, Gwobr Sakharov, Gwobr Bruno Kreisky |
Fe'i henwebwyd am derbyniodd Wobr Sakharov 1995 gan Senedd Ewrop, ond methai ei derbyn nes iddi gael ei rhyddhau yn 2004. Yn Ebrill 2008 cafodd ei charcharu eto am ddwy flynedd gan lywodraeth Twrci.[1]
Mae nifer o bobl yn ymgyrchu dros ryddhau Leyla Zana, yn cynnwys Eurig Wyn ASE (Plaid Cymru).[2]
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) CILDEKT: International Committee for the Liberation of the Kurdish Parliamentarians Imprisoned in Turkey
- (Saesneg) Amnest Rhyngwladol Archifwyd 2006-02-20 yn y Peiriant Wayback Turkey: Prolonged imprisonment of Leyla Zana and others allows injustice to continue, 2004
- (Saesneg) Sensoriaeth yn Nhwrci Archifwyd 2007-02-09 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Newyddion BBC "EU award for freed Kurd activist"
- (Saesneg) TURKEY : Leyla Zana, the only Kurdish woman MP