Liam Ó Flaitheartaigh

Llenor Gwyddelig, yn ysgrifennu mewn Saesneg a Gwyddeleg, oedd Liam Ó Flaitheartaigh neu Liam O'Flaherty (28 Awst 18967 Medi 1984). Ystyrir ef yn un o nofelwyr ac awdur storïau byrion pwysicaf yr Adfywiad Gwyddelig.

Liam Ó Flaitheartaigh
Ganwyd28 Awst 1896, 28 Ebrill 1896, 19 Ebrill 1897 Edit this on Wikidata
Inis Mór Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1984, 7 Gorffennaf 1984 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr, nofelydd, dramodydd Edit this on Wikidata
PriodMargaret Barrington Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa James Tait Black Edit this on Wikidata

Ganed ef ym mhentref Gort na gCapall ar ynys Inis Mór yn Ynysoedd Arann. Fel y rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, roedd y teulu yn Wyddeleg ei iaith, ond nid oedd ei deulu yn gefnogol i'r iaith. Yn 1908 ymadawodd i fynd i nifer o golegau, yn cynnwys Prifysgol Dulyn. Ymddengys ei fod wedi bwriadu mynd yn offeiriad, ond yn 1917 ymunodd a'r Fyddin Brydeinig a bu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'r rhyfel, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n byw yn Hollywood am gyfnod. Roedd y cyfarwyddwr ffilmiau John Ford yn gefnder iddo, ac yn ddiweddarach gwnaeth ffilm o nofel Ó Flaitheartaigh, The Informer.

Cyhoeddodd Ó Flaitheartaigh ei nofel gyntaf, Thy Neighbour's Wife, yn 1924. Ystyrir Dúil, a gyhoeddodd tua diwedd ei oes, yn un o lyfrau gorau yr iaith Wyddeleg yn yr 20g. Bu farw yn 88 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. James M. Cahalan (1991). Liam O'Flaherty: A Study of the Short Fiction (yn Saesneg). Twayne. t. 160. ISBN 9780805783124.