Licypriya Kangujam
Mae Licypriya Kangujam (ganwyd 2011) yn ymgyrchydd amgylcheddol o India. Hi yw un o'r ymgyrchwyr (weithiau: gweithredwyr) hinsawdd ieuengaf yn fyd-eang ac mae wedi annerch arweinwyr y byd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 ( COP25 ) ym Madrid, Sbaen yn gofyn iddynt weithredu ar unwaith i atal newid hinsawdd. Trodd at ymgyrchu dros weithredu yn yr hinsawdd yn India ers 2018, i basio deddfau newydd i ffrwyno lefelau llygredd uchel India, ac i wneud llythrennedd newid hinsawdd yn orfodol mewn ysgolion.[1][2][3][4]
Licypriya Kangujam | |
---|---|
Ganwyd | 2 Hydref 2011 Imphal East district |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd, disgybl ysgol |
Perthnasau | Chinglensana Singh |
Mae hi wedi cael ei hystyried yn Greta Thunberg o India, er nad yw'n hoffi'r defnydd o'r term hwn.[5]
Dechreuodd Licypriya eiriol yn erbyn newid yn yr hinsawdd yng Ngorffennaf 2018. Ar 21 Mehefin 2019, wedi'i hysbydoli gan Greta Thunberg, dechreuodd Licypriya dreulio wythnos y tu allan i Senedd-dy India yn galkw ar y Prif Weinidog Narendra Modi i basio deddf newid hinsawdd yn India . Ar 31 Awst 2019, derbyniodd Licypriya "Wobr Heddwch Plant y Byd 2019" a drosglwyddwyd gan Charles Allen, Cyfarwyddwr Partneriaethau Mynegai Heddwch Bydeang - Sefydliad Economeg a Heddwch (CAU), Awstralia mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gynghrair Ranbarthol Meithrin Ieuenctid a'r Weinyddiaeth Chwaraeon Ieuenctid a Grymuso Cymunedol, Llywodraeth Maldives. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â'r teitl "Rising Star" gan bencadlys Rhwydwaith Diwrnod y Ddaear yn Washington, DC, UDA.[6][7][8]
Ar 19 Tachwedd 2019, derbyniodd " Wobr Llysgennad SDGs 2019" ym Mhrifysgol Chandigarh gan Dainik Bhaskar mewn cydweithrediad â NITI Aayog, Llywodraeth India . Derbyniodd Licypriya hefyd y "Global Child Prodigy Award 2020" ar 3 Ionawr 2020 yn New Delhi gan Raglaw Lywodraethwr Pondicherry Kiran Bedi.[9] Ar 18 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxSBSC a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Delhi, New Delhi, India. Ar 23 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxGateway a gynhaliwyd ym Mumbai a derbyniodd gymeradwyaeth ar-ei-sefyll am ei haraith. Bu’n annerch sgwrs TEDx am y chweched gwaith tan ei naw mlwydd oed.[10][11][12][13]
Magwraeth
golyguGanwyd Licypriya Kangujam ar 2 Hydref 2011 yn Bashikhong, Manipur, India, yn ferch hynafi KK Singh a Bidyarani Devi Kangujam Ongbi. Dechreuodd Kangujam godi ei llais i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a lleihau risg trychinebau, pan oedd hi'n saith oed. Ym Mehefin 2019, protestiodd o flaen Senedd-dy India yn annerch Prif Weinidog India Narendra Modi i ddeddfu’r gyfraith newid hinsawdd yn India.[14][15][16][17]
Gweithredu 2018–2019
golyguYmweliadau â Mongolia
golyguYn 2018, mynychodd Licypriya gynhadledd trychineb y Cenhedloedd Unedig ym Mongolia ynghyd â’i thad. Ysbrydolwyd hi i gymryd rhan mewn ymgyrchu. Mewn erthygl yn y BBC News nododd "Cefais lawer o ysbrydoliaeth a gwybodaeth newydd gan y bobl sy'n rhoi areithiau. Roedd yn ddigwyddiad a newidiodd ei bywyd. "Sefydlodd Licypriya y "Mudiad Plant" yn fuan ar ôl y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth i amddiffyn y blaned trwy fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.[18]
Ymweliadau ag Affrica
golyguMynychodd Kangujam Fforwm Partneriaid UNESCO 2019 (Biandaial Luanda) yn Ninas Luanda, Angola a wahoddwyd gan UNESCO, Undeb Affrica a Llywodraeth Angola. Bu’n annerch ar newid hinsawdd ynghyd ag Arlywydd Angola João Lourenço, Llywydd Mali Ibrahim Boubacar Keïta, Llywydd Malawi Hage Geingob, Llywydd Gweriniaeth y Congo Denis Sassou Nguesso, ac eraill.[19][20][21][22]
Llifogydd Kerala 2018
golyguFe roddodd Licypriya ei chynilion o 100,000 Rupees i Brif Weinidog Kerala Pinarayi Vijayan ar 24 Awst 2018 i helpu plant sydd wedi dioddef oherwydd Llifogydd Kerala. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd lythyr gan Lywodraeth Kerala fel cydnabyddiaeth o'i gwaith.[23]
Roedd rhodd Licypriya i'r Prif Weinidog yn cefnogi eu gwaith yn amddiffyn plant sy'n cael eu taro gan y llifogydd. Teimlai y byddai ei chyfraniad bach yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r plant yn ystod yr amser anodd.
Pecyn Goroesi ar gyfer y Dyfodol
golyguDaeth Licypriya â dyfais symbolaidd o'r enw SUKIFU (Survival Kit for the Future) i ffrwyno'r llygredd aer ar 4 Hydref 2019. Mae SUKIFU yn becyn cyllideb sydd bron yn sero wedi'i greu o sbwriel i ddarparu awyr iach pan fo llygredd yn ddrwg. Mae'r teclyn gwisgadwy hwn yn gydnabyddiaeth o'r Mudiad Gwyrdd am lygredd aer. Gall unrhyw un greu'r cysyniad hwn gartref o'r sbwriel ailgylchu i roi awyr iach yn uniongyrchol i'n hysgyfaint. Fe’i lansiodd o flaen Tŷ Cynulliad Deddfwriaethol Punjab & Haryana fel symbol o arddangosiad cyn seremoni cymryd llw MLAs a Gweinidogion Haryana. Tynnodd sylw'r arweinwyr at y pwysigrwydd i ddod o hyd i ateb brys ar gyfer yr argyfwng presennol o lygredd aer yn Delhi a'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol.[24][25][26]
COP25
golyguAnerchodd Licypriya Kangujam yn COP25 yn annog arweinwyr y byd i weithredu nawr ar newid hinsawdd. Cynhaliwyd Cynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig i drafod y gweithredu rhyngwladol ar newid hinsawdd. Mynychodd 26,000 o bobl o 196 o wledydd y digwyddiad hwn. Fe'i cynhaliwyd rhwng 2 Rhagfyr a 13 Rhagfyr yn IFEMA, Madrid, Sbaen, dan ofal Llywodraeth Chile gyda chefnogaeth logisteg Llywodraeth Sbaen o dan UNFCCC (Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd).[27]
Cyfarfu Kangujam ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn ystod Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP25 a chyflwynodd femorandwm "ar ran plant y byd." Nododd y memorandwm ei bod am greu lle gwell i holl blant y byd. Cafodd ei chanmol gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres. Cymerodd Greta Thunberg a sawl arweinydd byd-eang arall ran yn ystod y digwyddiad hwn.[28]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Meet Licypriya Kangujam, the 8-yr-old Indian 'Greta' who is urging leaders at COP25 to save the planet". The Economic Times. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
- ↑ "Eight-Year-Old Licypriya Kangujam Is Flying India's Flag at COP25". The Wire (India). 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
- ↑ "Indian 8-year-old challenges world leaders to act on climate change at COP25 in Madrid". The Hindu. 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
- ↑ "Meet Licypriya Kangujam, the 8-yr-old Indian 'Greta' who is urging leaders at COP25 to save the planet". The Economic Times. 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
- ↑ Banerji, Annie (2020-02-08). "'Don't call me India's Greta Thunberg and erase my story': Eight-year-old Licypriya Kangujam". Scroll.in. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-06. Cyrchwyd 2021-02-06.
- ↑ "India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand". BBC News. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020.
- ↑ "One year on, child climate activist, 8, continues strike outside Indian parliament". The Straits Times. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020.
- ↑ "This 7-Yr-Old Girl Stood Near Parliament Urging PM Narendra Modi To Pass The Climate Change Law Now". The Times of India. Cyrchwyd 19 Mehefin 2019.
- ↑ "Licypriya Kangujam from India - the world's youngest climate activist - stands with Greta Thunberg and demands three new policies". Business Insider. Cyrchwyd 19 December 2019.
- ↑ "Licypriya Kangujam". TEDxGateway. Cyrchwyd 23 Chwefror 2020.
- ↑ "Young ones to take centre stage at TEDxGateway tomorrow". TEDxGateway. Cyrchwyd 23 Chwefror 2020.
- ↑ "Licypriya Kangujam". The Hindu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22. Cyrchwyd 22 Chwefror 2020.
- ↑ "Climate change, future tech take centre stage". Mumbai Mirror. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22. Cyrchwyd 22 Chwefror 2020.
- ↑ "A 7-Year-Old Takes Stand Near The Parliament Urging PM Modi To Pass The Climate Change Law". ScoopWhoop. 22 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
- ↑ "Angola backs Licypriya's green world campaign". Poknapham. 24 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-09. Cyrchwyd 24 Medi 2019.
- ↑ "Seven-year-old becomes the youngest green activist". Daily News and Analysis. 9 Medi 2019. Cyrchwyd 9 Medi 2019.
- ↑ "Aged 7, Licypriya Kangujam stands outside Parliament to urge Prime Minister, MPs to pass climate change law". Mirror Now. 22 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
- ↑ "India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand". BBC News. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020."India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand".
- ↑ "Biennale of Luanda - Pan-African Forum for the culture of peace". UNESCO. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
- ↑ "Biennale of Luanda: Pan-African Forum for the Culture of Peace". African Union. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
- ↑ "Licypriya Kangujam met with The President of Namibia". India Education Diary. 20 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-26. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
- ↑ "Licypriya draws attention of world leaders on her maiden climate change movement in Angola". Rediff Realtime. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
- ↑ "Licypriya Kangujam Donated ₹1,00,000 to Kerala Government to Support Victim Children of Kerala Massive Flood in 2018 but Acknowledged after almost 2 Years". Saarcyouth.org. 22 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-28. Cyrchwyd 22 Hydref 2019.
- ↑ "Licypriya Kangujam launches solution to curb air pollution". Pragativadi. 4 Nov 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-06. Cyrchwyd 4 Nov 2019.
- ↑ "8 yr olds solution to tackle air pollution". Pragativadi. 5 Nov 2019. Cyrchwyd 5 Nov 2019.
- ↑ "8-years-old Licypriya Kangujam launched solution to curb air pollution". The Northeast Today. 5 Nov 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-13. Cyrchwyd 5 Nov 2019.
- ↑ "UN Chief lavishes praise on India's 8-yr-old activist". Deccan Herald. 2019-12-13. Cyrchwyd 2019-12-13.
- ↑ "India's 8-yr-old activist at COP25 reminder of world's obligations to future generations:UN Chief". Outlook. 2019-12-13. Cyrchwyd 2019-12-13.