Mae Manipur (Bengaleg: মণিপুর, Meitei Mayek: mnipur, 'Y Wlad Emaidd') yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India ar y ffin â Myanmar. Ei brifddinas yw Imphal. Mae Manipur yn rhannu ffin â thaleithiau Indiaidd Nagaland, i'r gogledd, Mizoram i'r de ac Assam i'r gorllewin; yn y dwyrain mae'r ffin â Myanmar. Mae gan y dalaith arwynebedd tir o 22,327 km² a phoblogaeth isel (yn ôl safonau India) o 2,388,634. Mae'n ardal o sensitifrwydd wleidyddol a milwrol ac nid yw'n hawdd ymweld â hi.

Manipur
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasImphal Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,855,794 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1972 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNongthombam Biren Singh Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd22,327 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAssam, Nagaland, Mizoram, Chin State Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.81°N 93.94°E Edit this on Wikidata
IN-MN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolManipur Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholManipur Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethLa Ganesan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Manipur Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNongthombam Biren Singh Edit this on Wikidata
Map

Mae Manipur yn gartref i sawl grŵp ethnig - o leiaf 20 - a nifer ohonynt yn Gristnogion. Un o'r grwpiau mwyaf yw'r Meiteis, sy'n byw yn ardal dyffryn canolog y dalaith yn bennaf. Eu hiaith, Meitei (a elwir hefyd yn Meiteilon neu Manipuri), yw lingua franca y dalaith; cafodd ei chydnabod fel un o ieithoedd cenedlaethol India yn 1992.

Mae'r dalaith yn adnabyddus am ei dawnsio clasurol ac yn ogystal mae'n un o'r lleoedd yn Asia sy'n honni fod yn fan geni'r gêm polo.

Yn ystod ei hanes mae Burma wedi hawlio Manipur sawl gwaith ac wedi ceisio'i goresgyn. Yn ogystal mae hanes digon drwg rhang y Manipurwyr a'u cymdogion yn Nagaland. Dros y degawdau diweddar cafwyd llawer o wrthdaro rhwng y pobloedd Naga a'r Kuki ac mae grwpiau arfog yn brwydro am annibyniaeth yn ogystal.


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry