Lila Downs
actores a aned yn 1968
Cantores a chyfansoddwr folk Latino yw Ana Lila Downs Sánchez (ganwyd Lila Downs; 9 Medi 1968 yn Oaxaca, Mecsico). Mae'n canu ei chaneuon ei hun yn ogystal â pherfformio caneuon traddodiadol Mecsico ac mewn ieithoedd brodorol eraill megis: Mixteg, Zapoteg, Maya, Nahuatleg a P'urhépecha.
Lila Downs | |
---|---|
Ganwyd | 9 Medi 1968 Affrica |
Label recordio | Sony Music |
Dinasyddiaeth | Mecsico, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor, actor ffilm, canwr opera, artist recordio |
Arddull | Canu gwerin, regional Mexican |
Math o lais | contralto |
Priod | Paul Cohen |
Gwobr/au | Latin Grammy Award for Best Contemporary Pop Vocal Album, chevalier des Arts et des Lettres, honorary doctor of the Berklee College of Music, Leading Ladies of Entertainment |
Gwefan | https://www.liladowns.com/ |
Mae llawer cantores yn y byd Mecsicanaidd yn ceisio dynwared Lila Downs. Albanwr-Americanwr oedd ei thad a oedd yn Athro Celf ym Mhrifysgol Minnesota. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn Oaxaca a graddiodd mewn canu ac anthropoleg ym Minesota. Mecsicanes a dawnswraig cabaret oedd ei mam.
Yn 1994 recordiodd ei chryno-ddisg cyntaf, sef "Ofrenda" ac mae hi'n canu yn Sbaeneg, Saesneg a Mixteneg ar y recordiad hwnnw.
Disgograffi
golyguCD
golygu- 1994 – Ofrenda
- 1999 – La Sandunga
- 1999 – Trazos
- 2000 – Árbol de la vida
- 2001 – La Línea
- 2004 – Una sangre,
- 2006 – La Cantina
- 2008 – The Very Best Of Lila Downs (El Alma De Lila Downs) (CD+DVD)
- 2009 – Ojo de Culebra (Shake Away)
- 2010 – Lila Downs y La Misteriosa «En París Live à Fip»
- 2012 - Pecados y Milagros
DVD
golyguDolenni allanol
golygu- Tudalen swyddogol Lila Downs
- Letras de canciones Archifwyd 2011-08-08 yn y Peiriant Wayback en lyrics.time.