Liz Saville Roberts

Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd ers 8 Mai 2015, yr AS benywaidd cyntaf yn hanes Plaid Cymru.

Aelod seneddol yn San Steffan yw Liz Saville Roberts (ganwyd 16 Rhagfyr 1965).[1] Mae hi'n Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd ers 8 Mai 2015, gan olynu'r cyn-AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd. Hi yw'r Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yn hanes Plaid Cymru.

Liz Saville Roberts
AS
Aelod Seneddol
dros Ddwyfor Meirionnydd
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mai 2015
Rhagflaenydd Elfyn Llwyd
Mwyafrif 4,850 (16%)
Manylion personol
Ganwyd (1965-12-16) 16 Rhagfyr 1965 (58 oed)
Eltham, Llundain
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Aberystwyth
Gwefan lizsavilleroberts.org

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Cafodd ei geni yn Eltham, Llundain.[2] Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n briod â Dewi Roberts.

Gyrfa golygu

Cyn ei hethol yn Aelod Seneddol bu'n gweithio ym maes Addysg Bellach yng Nghanolfan Sgiliaith a Choleg Meirion Dwyfor. Bu hefyd yn Gyngorydd Sirol dros ward Nefyn ar Gyngor Gwynedd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Elfyn Llwyd
Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd
2015 – presennol
Olynydd:
deiliad