Llafur dros Gymru Annibynnol

Mae Llafur dros Gymru Annibynnol yn grŵp o aelodau'r Blaid Lafur sydd yn "credu mai'r ffordd orau o sicrhau Cymru sosialaidd ddemocrataidd yw trwy annibyniaeth ".[1]

Cefndir golygu

Cynhaliodd Llafur dros Gymru Annibynnol eu digwyddiad cyntaf gyda Neville Southall, yng Nghynhadledd Llafur Cymru 2018. Cynhaliwyd ail ddigwyddiad yng nghynhadledd Llafur Cymru 2019. Ffurfiodd y grŵp gyfansoddiad yn 2020 ac etholwyd pwyllgor gwaith yn 2021. [2]

Llywydd y grŵp yw Rachel Garrick.[1]

Cefnogaeth dros annibyniaeth yn Llafur Cymru golygu

Bu Elystan Morgan (1932-2021), cyn AS Llafur dros Geredigion ac arglwydd am oes yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn gefnogwr oes i ddatganoli ac, yn dilyn pleidlais Brexit, dros statws dominiwn i Gymru. [3] [4]

Mae Gwynoro Jones, cyn AS Llafur wedi dadlau o blaid confensiwn cyfansoddiadol a fyddai’n archwilio symudiad tuag at Gymru sofran. [5]

Ym mis Awst 2020, dangosodd arolwg barn YouGov "pe bai refferendwm yfory", byddai 39% o bleidleiswyr Llafur Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth gyda 37% yn erbyn. Canfu Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd, ar adeg etholiad y Senedd yn 2016, fod dros 40% o bleidleiswyr Llafur yn cefnogi annibyniaeth. [6]

Pleidleisiodd cyngor Blaenafon, gyda mwyafrif Llafur, i gefnogi annibyniaeth. [7]

Mae wedi cael ei awgrymu  y gallai Llafur Cymru gefnogi annibyniaeth i Gymru yn y dyfodol. [8]

Gweledigaeth golygu

Darparodd Llafur dros Gymru annibynnol eu hatebion i ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru:

  • “Systemau cyfansoddiadol, amgylcheddol, cyfreithiol a chymdeithasol yn eu lle ar gyfer gwlad deg a chynaliadwy”
  • “adeiladu fframwaith cenedlaethol sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy’n cynnwys yr holl systemau cyfansoddiadol, amgylcheddol, cyfreithiol a chymdeithasol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwlad deg a chynaliadwy”
  • Llw teyrngarwch i bobl Cymru, yn hytrach na'r frenhines a gwladoli ystâd y goron (crown estate) yng Nghymru
  • Dod yn genedl-wladwriaeth sofran gyda banc canolog Cymreig
  • "rhoi pobl a'r amgylchedd yn gyntaf, nid elw"
  • "Dylai newidiadau i gyfansoddiad Cymru fod yn rhan o ymgynghoriad cenedlaethol"
  • "Cryfhau a datblygu'r Gymraeg" [9]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Garrick, Rachel (14 May 2022). "Rachel Garrick on Wales, the Senedd and the Union". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-09. Cyrchwyd 16 May 2022.
  2. "About" (yn Saesneg). Labour for an Independent Wales. Cyrchwyd 2022-09-16.
  3. "Could Labour Lead Wales to Independence?". Novara Media (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-18.
  4. "Welsh devolution is being betrayed, says Lord Elystan-Morgan". BBC News (yn Saesneg). 2017-10-06. Cyrchwyd 2022-10-18.
  5. admin (2018-09-14). "Plaid Cymru leadership election, Yes Cymru and Independence". Institute of Welsh Affairs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-18.
  6. "Why the Welsh independence movement needs Labour supporters to win". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-09-07. Cyrchwyd 2022-05-17.
  7. "Labour-run Blaenavon town council backs Welsh independence". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2019-09-25. Cyrchwyd 2022-09-18.
  8. "Could Labour Lead Wales to Independence?". Novara Media (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-18.
  9. "Labour supporters lay out vision of independent Wales". The National Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-18.[dolen marw]