Dwyfor
Gweler hefyd: Dwyfor Meirionnydd (etholaeth seneddol) a Coleg Meirion-Dwyfor.
Math | Llywodraeth leol yng Nghymru |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.903°N 4.46°W |
Roedd Dwyfor yn un o bum dosbarth llywodraeth leol sir Gwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru, o 1974 hyd 1996, yn cyfateb yn fras i ardal penrhyn Llŷn ac Eifionydd. Lleolwyd pencadlys y cyngor yn nhref Pwllheli.
Sefydlwyd Dwyfor ar y 1af o Ebrill, 1974, fel olynydd i fwrdeistref Pwllheli, dosbarthau trefol Cricieth a Porthmadog, Dosbarth Gwledig Llŷn, a rhan o Ddosbarth Gwledig Gwyrfai, a fuont yn rhan o'r hen sir weinyddol, Sir Gaernarfon. Fe'i enwyd ar ôl Afon Dwyfor.
Roedd Dwyfor yn un o gadarnleoedd olaf y mudiad dirwest yng Nghymru. Dan dermau Deddf Drwyddedu 1961, gwrthodwyd polau lleol agor tafarndai ar y Sul hyd 1982; ailgaewyd y tafarndai ar y Sul ar ôl refferendwm arall yn 1989, gyda 9% yn pleidleisio, ond maent ar agor eto ers 1996.
Dileuwyd y dosbarth pan ailgreuwyd sir Gwynedd ar y 1af o Ebrill 1996. Ond mae'n aros fel ardal a wasanaethir gan un o bwyllgorau ardal Cyngor Gwynedd.