Llanbeulan
plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanbeulan. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r dwyrain o bentref Rhosneigr.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Enwir y plwyf ar ôl Sant Peulan a chysegrir eglwys y plwyf iddo.[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Atlas Môn (Llangefni, 1972).