Llandudno, De Affrica

maestref o Dref y Penrhyn, De Affrica

Maestref breswyl yn Nhref y Penrhyn, De Affrica yw Llandudno. Mae'n sefyll ar arfordir Cefnfor yr Iwerydd ar Benrhyn Gobaith Da. Nid oes goleuadau stryd, siopau na gweithgareddau masnachol yno. Mae pris eiddo preswyl yn Llandudno ymysg y drutaf yn Ne Affrica. [1]

Llandudno
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlandudno Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
GwladDe Affrica Edit this on Wikidata
Arwynebedd2.89 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr56 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34°S 18.33°E Edit this on Wikidata
Cod post7806, 7806 Edit this on Wikidata
Map

Traeth golygu

Traeth Llandudno yw un o draethau mwyaf naturiol amrywiol y Penrhyn, wedi'i amgylchynu gan glogfeini gwenithfaen mawr ac mae mynyddoedd yn edrych drosto. Mae'n fan syrffio poblogaidd, ond gall y nofio fod yn beryglus, gyda moroedd garw a dŵr oer dros ben. Mae gan Landudno achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod tymor yr haf, a weithredir gan glwb Achub Bywyd Syrffio Llandudno. Dyma hefyd bwynt mynediad y daith gerdded i Sandy Bay, traeth ynysig sy'n boblogaidd gyda noethlymunwyr. [2]

Yr enw golygu

Ar 26 Medi 1903 ffurfiwyd yr ardal yn drefgordd a'i enwi yn Llandudno ar ôl cyrchfan glan môr poblogaidd Llandudno, Sir Conwy. Y rheswm dros ddewis yr enw oedd oherwydd y tebygrwydd trawiadol rhwng Bae Kleinkommetjie, lle mae'r faestref yn sefyll, a'r Llandudno yng Nghymru. [3]

Demograffeg golygu

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae gan Landudno boblogaeth o 571 [4]

Grwpiau ethnig
Grŵp Poblogaeth %
Pobl Duon 59 10.3%
Pobl lliw 12 2.1%
Indiaid 1 0.2%
Gwynion 496 86.9%
Iaith
Iaith Poblogaeth %
Saesneg 488 85.46%
Affricaneg 34 5.95%
Xhosa 19 3.33%
Ieithoedd Affricanaidd eraill 17 2.98%
Ieithoedd eraill 13 2.28%

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. SA Venues LLANDUDNO, ATLANTIC SEABOARD adalwyd 25 Mai 2020
  2. Cape Town SJ Sandy Bay Beach adalwyd 25 Mai 2020
  3. Llandudno SRA - History of Llandudno Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Mai 2020
  4. "Census 2011: Sub Place: Llandudno". census2011.adrianfrith.com. Cyrchwyd 2020-05-25.