Lleucu Llwyd
Lleucu Llwyd, yn ôl traddodiad, oedd cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. 1350 - 1390). Canodd y bardd un o'r cerddi enwocaf yn llenyddiaeth Gymraeg iddi pan fu farw, sef Marwnad Lleucu Llwyd.
Ychydig a wyddys amdani er ei bod mor enwog. Yn ôl y fawrnad, merch o Bennal, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi, oedd Lleucu:
- Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
- Breuddwyd oer, briddo dy dâl![1]
Roedd hi'n wraig briod pan fu farw ond mae ansicrwydd am y dystiolaeth ynghylch ei gŵr: un Dafydd Ddu o Gymer (ger Abaty Cymer) yn ôl un ffynhonnell, Ieuan Ddu o'r Gydros yn ôl un arall a nodir gan Gruffudd Hiraethog yn yr 16g. Yn ôl Gruffudd cafodd fab o'r enw 'Y Coch'.
Er bod angerdd Llywelyn yn amlwg yn ei gerddi i Leucu ni ellir fod yn sicr eu bod yn gariadon fel y cyfryw. Ceir mwy nag un enghraifft yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr o farwnadau ffug hefyd, er enghraifft i gyd-feirdd, sy'n awgrymu'r posibilrwydd mai "canu'n iach" i'w cariad pan briododd hi oedd Llywelyn. Ac eto i gyd mae natur arbennig y farwnad enwog hon yn awgrymu'n gryf ei bod yn gerdd ddiffuant. Roedd claddu Lleucu, merch hardd fel golau'r lloer, fel dwyn pob goleuni o Wynedd:
- Nid oes yng Ngwynedd heddiw
- Na lleuad, na llewyrch, na lliw,
- Er pan rodded, trwydded trwch,
- Dan lawr dygn dyn loer degwch.[1]
Mae'n weddol sicr mai confensiwn pur sydd yn y 'caru', i ddangos cymaint yw colled y bardd. Sonnir amdani fel 'meistres y pryd', sef 'meistres y wledd' yn ei llys pan yn fyw, a sonnir am ei gwr, gan ei bod yn gadael ei heiddo bydol i'r 'gwr du balch'. Petai hi'n gariad iddo, fyddai o ddim wedi meiddio cyhoeddi hynny ar goedd mewn marwnad. Cofiwn beth ddigwyddodd i Ddafydd Nanmor pan feiddiodd gael perthynas efo Gwen o'r Ddôl. Mae'r dull serenâd yng nghanol y cywydd yn ychwanegu at y ddelwedd gonfensiynol o berthynas garwriaethol.
Rhaid ystyried hefyd fod ambell enw merch yn enw 'stoc' yn y traddodiad barddol. Mae'n bosibl bod myw nag un ferch o'r enw wedi bod yn destun canu serch yn y 14g. Dyfynnir darn o gywydd i un "Lleucu Llwyd" yn nhestun copi o un o ramadegau'r penceirddiaid sydd i'w dyddio i tua 1330, er enghraifft (rhy gynnar i Leucu Llywelyn).
Ceir nifer o destunau o Farwnad Lleucu Llwyd yn y llawysgrifau ac mae'r amrywiadau niferus ar y testunau diweddarach yn awgrymu bod cryn "mynd" ar y gerdd ar lafar ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y gerdd yng ngwaith y beirdd hefyd, gan gynnwys Iolo Goch, oedd yn adnabod Llywelyn yn dda.
Cafwyd testunau rhyddiaith am amgylchiadau marw Lleucu yn ogystal, er enghraifft Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, un o destunau'r Areithiau Pros y ceir y copi gorau ohono yn llaw'r ysgolhaig Thomas Wiliems. Mae Lleucu Llwyd yn gân gwerin adnabyddus heddiw.
Llyfryddiaeth
golygu- Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998). Testun y Farwnad a nodiadau helaeth arno, gyda llyfryddiaeth bellach ar y gerdd.