Peblig
sant Cymreig (4g) a mab Macsen Wledig
Sant cynnar oedd Peblig (Lladin, Publicius) (fl. diwedd y 4g - dechrau'r 5g OC). Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion yr ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf.[1]
Peblig | |
---|---|
Darlun posibl o Beblig yn Llyfr Oriau Llanbeblig | |
Ganwyd | 380 Cymru |
Bu farw | Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 3 Gorffennaf |
Tad | Macsen Wledig |
Mam | Santes Elen Luyddog |
Hanes a thraddodiad
golyguYn ôl traddodiad roedd Peblig yn frawd i Owain fab Macsen Wledig a Cystennin (Constantinus). Cyfeiria Nennius (9g) at fedd Cystennin yng "Nghaer Seint".[2] Trosglwyddwyd y gistfaen i eglwys Llanbeblig ar orchymyn Edward I o Loegr yn 1283.
Cysegrir eglwys Llanbeblig, ger caer Rufeinig Segontium (Caernarfon) i Beblig. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith fod ei enw yn Gymreigiad o'r enw personol Lladin Publicius, yn tueddu i gadarnhau'r cysylltiad Rhufeinig er na ellir profi ei fod yn fab i Elen a Macsen.
Dethlir gwylmabsant Peblig ar 3 Gorffennaf.