Llygredd aer yn y cartref

Mae llygredd aer cartrefi (Household air polution; HAP) yn fath sylweddol o lygredd aer dan do, yn bennaf yn ymwneud â dulliau coginio a gwresogi a ddefnyddir mewn gwledydd sy'n datblygu.[1] Gan fod llawer o'r coginio yn cael ei wneud gyda thanwydd biomas ee pren neu goed tân, siarcol, tail sych, eithin a gweddillion cnwd, dan do mewn cegin sydd heb ei hwyru'n priodol, mae miliynau o bobl, menywod a phlant yn bennaf, yn wynebu risgiau iechyd difrifol. Yn gyfangwbwl, mae tua thri biliwn o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael eu heffeithio gan y broblem hon. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod llygredd sy'n gysylltiedig â choginio yn achosi 3.8 miliwn o farwolaethau blynyddol.[2] Amcangyfrifodd yr astudiaeth Baich Clefydau Byd-eang (Global Burden of Disease) fod cyfanswm y marwolaethau yn 2017 yn 1.6 miliwn.[3] Mae cysylltiad agos rhwng y broblem a thlodi ynni a choginio.

Cyfran o farwolaethau fesul gwlad o lygredd aer yn y cartref yn 2017.

Mae mwg o hylosgi tanwydd solet yn y cartref traddodiadol yn aml yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion hylosgi anghyflawn, gan gynnwys deunydd gronynnol mân a bras (ee, PM 2.5, PM 10), carbon monocsid (CO), nitrogen deuocsid (NO 2), sylffwr deuocsid (SO 2), ac amrywiaeth o lygryddion aer organig.

Mae atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg i'r broblem hon yn tueddu i ganolbwyntio ar gyflenwad gwell o ffyrnau (podai) coginio er y gall newidiad ymddygiad fod yn bwysig hefyd.

Disgrifiad o'r broblem a graddfa'r broblem

golygu
 
Tanau llosgi coed traddodiadol, sy'n achosi llygredd aer yn y cartref.

Mae tri biliwn o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu'n dibynnu ar danwydd biomas fel eu tanwydd coginio a gwresogi domestig. Gan fod llawer o'r coginio yn cael ei wneud dan do mewn amgylcheddau sydd heb awyru priodol, mae miliynau o bobl, menywod a phlant yn bennaf, yn wynebu risgiau iechyd difrifol. Mae prif ffynonellau llygredd dan do'n cynnwys hylosgi a deunyddiau adeiladu.[4] Rhanbarthau De-ddwyrain Asia a Gorllewin y Môr Tawel sy'n ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r baich gyda 1.69 a 1.62 miliwn o farwolaethau, yn y drefn honno. Mae bron i 600,000 o farwolaethau yn digwydd yn Affrica, 200,000 yn rhanbarth Dwyrain Môr y Canoldir, 99,000 yn Ewrop ac 81,000 yn yr Americas. Mae'r 19,000 o farwolaethau sy'n weddill yn digwydd mewn gwledydd incwm uchel.[5]

Dros y degawdau diwethaf, bu nifer o astudiaethau yn ymchwilio i'r llygredd aer a gynhyrchir gan hylosgi tanwydd solet cartref traddodiadol ar gyfer gwresogi, goleuo a choginio mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae wedi'i hen sefydlu bellach, ledled llawer o'r byd sy'n datblygu, bod llosgi tanwydd solet dan do (biomas, glo, ac ati) heb eu hawyru'n ddigonol yn aml, yn arwain at lygredd uwch yn aer y cartref. Mae hyn oherwydd effeithlonrwydd hylosgi gwael y dyfeisiau hylosgi a natur uchel yr allyriadau. Yn ogystal, maent yn aml yn cael eu rhyddhau'n uniongyrchol i ardaloedd byw.[6] Mae mwg o hylosgi tanwydd solet cartref traddodiadol yn aml yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion hylosgi anghyflawn, gan gynnwys deunydd gronynnol mân a bras ee, PM 2.5, PM 10), carbon monocsid (CO), nitrogen deuocsid (NO 2), sylffwr deuocsid (SO 2), ac amrywiaeth o lygryddion aer organig (ee, fformaldehyd, 1,3-biwtadïen, bensen, asetaldehyde, acrolein, ffenolau, pyren, benzopyrene, benso(a)pyrene, dibenzopyrenes, dibenzocarbazoles), a cresols.[6] Mewn stôf tanwydd solet nodweddiadol, mae tua 6-20% o'r tanwydd solet yn cael ei drawsnewid yn allyriadau gwenwynig (yn ôl màs). Mae'r union faint a chyfansoddiad cymharol yn cael eu pennu gan ffactorau megis y math o danwydd a chynnwys lleithder, math y stôf a sut mae'n cael ei ddefnyddio.[6]

Menywod

golygu

Merched sy'n bennaf gyfrifol am gasglu coed tanwydd ar gyfer coginio yn y rhan fwyaf o gartrefi, yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac mewn gwersylloedd ffoaduriaid. Merched hefyd yw'r rhan fwyaf sy'n marw o lygredd aer yn y cartref.[7] Dangoswyd bod gosod stofiau ethanol glanach yn lle stofiau cerosin/coed tân traddodiadol yn Nigeria yn gwella'r sefyllfa.[8]

 
Mae poptai solar yn defnyddio golau'r haul fel ffynhonnell ynni ar gyfer coginio yn yr awyr agored.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Household air pollution and health". who.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 July 2021.
  2. "Household air pollution and health: fact sheet". WHO (yn Saesneg). 8 May 2018. Cyrchwyd 2020-11-21.
  3. Ritchie, Hannah; Roser, Max (2019). "Access to Energy". Our World in Data. https://ourworldindata.org/indoor-air-pollution#indoor-air-pollution-is-one-of-the-leading-risk-factors-for-premature-death. Adalwyd 1 April 2021. ""According to the Global Burden of Disease study 1.6 million people died prematurely in 2017 as a result of indoor air pollution ... But it's worth noting that the WHO publishes a substantially larger number of indoor air pollution deaths..""
  4. Kankaria, A; Nongkynrih, B; Gupta, SK (October 2014). "Indoor air pollution in India: implications on health and its control.". Indian Journal of Community Medicine 39 (4): 203–7. doi:10.4103/0970-0218.143019. PMC 4215499. PMID 25364142. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4215499.
  5. "Burden of disease from Indoor Air Pollution for 2012" (PDF). WHO. 2014-03-24. Cyrchwyd 2014-03-28.
  6. 6.0 6.1 6.2 [1] Archifwyd 2015-04-03 yn y Peiriant Wayback, Long, C., Valberg, P., 2014. Evolution of Cleaner Solid Fuel Combustion, Cornerstone, http://cornerstonemag.net/evolution-of-cleaner-solid-fuel-combustion/ Archifwyd 2015-04-03 yn y Peiriant Wayback
  7. Alexander, Donee A. (2018). "Pregnancy Outcomes and Ethanol Cook Stove Intervention: A Randomized-Controlled Trial in Ibadan, Nigeria". Environment International 111: 152–163. arXiv:etal. doi:10.1016/j.envint.2017.11.021. PMID 29216559.
  8. "Burning Opportunity: Clean Household Energy for Health, Sustainable Development, and Wellbeing of Women and Children". World Health Organization. World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2016.

Dolenni allanol

golygu