Llygredd etifeddol

Mae llygredd etifeddol neu llygryddion a etifeddwyd yn ddeunyddiau parhaus yn yr amgylchedd a grëwyd trwy ddiwydiant neu broses llygru sy'n parhau wedi i'w defnydd arferol ddod i ben. Yn aml mae'r rhain yn cynnwys llygryddion organig parhaus, metalau trwm neu gemegau eraill sydd ar ôl yn yr amgylchedd ymhell ar ôl iddynt gael eu defnyddio.[1][2][3][4] Yn aml, cemegau yw'r rhain a gynhyrchir gan ddiwydiant ac a lygrwyd gan un genhedlaeth cyn bod ymwybyddiaeth eang o effeithiau gwenwynig y llygryddion; mae'n broblem a etifeddwyd gan y genhedlaeth nesaf.[3] Mae llygryddion etifeddol nodedig yn cynnwys arian byw, PCBs, Deuocsinau a chemegau eraill sy'n effeithio ar iechyd pobl a'r amgylchedd.[5][3] Mae safleoedd ;;e ceir llygryddion etifeddol yn aml yn cynnwys safleoedd mwyngloddio, parciau diwydiannol, dyfrffyrdd sydd wedi'u halogi gan ddiwydiant, mwynlifoedd a safleoedd dympio eraill.

Llygredd etifeddol
Mathllygredd Edit this on Wikidata

Yn aml, mae'r nwyddau neu'r cemegolyn yn cael ei greu mewn un wlad ac yna'n cael ei drosglwyddo i wlad arall, tlotach lle mae'n dod yn yn broblem sut i'w waredu.[4] Yn aml yn y gwledydd hyn, mae diffyg seilwaith rheoleiddio amgylcheddol, iechyd a dinesig i fynd i'r afael a'r broblem.[4]

Gall y llygredd etifeddol barhau'n broblem am flynyddoedd, ac mae angen datrus y broblem drwy drin y cemegolion a glanhau'r amgylchedd.[6] Un o'r dulliau diweddar mae'r trigolion lleol (ymgyrchwyr amgylcheddol fel rheol) yn delio gyda'r broblem yw drwy gyfiawnder amgylcheddol, sef erlyn y cyrff a greodd y broblem yn y lle cyntaf ar sail fod ganddynt hawl i amgylchedd iach.[6][7][8]

Rhai mathau o safleoedd golygu

Tir llwyd golygu

Mae tir llwyd yn cyfeirio at dir sy'n cael ei adael yn segur neu wedi cael ei ddefnyddio ryw dro, fel arfer gan ddiwydiant ac sy'n cynnwys llygredd.[9] Mae'r diffiniad penodol o dir llwyd yn amrywio ac yn cael ei benderfynu gan lunwyr polisi a/neu ddatblygwyr tir o fewn gwahanol wledydd.[10][11] Mae darn o dir yn cael ei ystyried yn dir llwyd pan fo'n cynnwys llygredd. [10][12] Yn gyffredinol, mae tir llwyd yn safle a ddatblygwyd yn flaenorol at ddibenion diwydiannol neu fasnachol ac felly mae angen ei lanhau cyn ei ailddefnyddio.[10][13]

Mwynlifoedd golygu

Prif: Mwynlif

Mewn mwyngloddio, mwynlif (Saesneg: tailings) yw'r defnyddiau sy'n weddill ar ôl y broses o wahanu'r ffracsiwn gwerthfawr o fwynau oddi wrth y ffracsiwn aneconomaidd. Mae mwynlif yn wahanol i'r graig wastraff neu ddeunydd arall sy'n gorwedd dros y mwyn neu'r mwynau ac sy'n cael ei ddadleoli yn ystod mwyngloddio heb gael ei brosesu.

Gellir echdynnu mwynau mewn dwy ffordd: mwyngloddio ponc dywod (Saesneg: placer mining) sy'n defnyddio dŵr a disgyrchiant i grynhoi'r mwynau gwerthfawr, neu fwyngloddio creigiau caled, sy'n malurio'r graig sy'n cynnwys y mwyn ac yna'n dibynnu ar adweithiau cemegol i grynhoi'r deunydd mewn un lle. Yn yr olaf, mae angen pylori'r mwynau, hy, malu'r mwyn yn ronynnau mân i hwyluso echdynnu'r elfennau a geisir. Oherwydd pyloriant, mae mwynlifau'n cynnwys slyri neu uwd o ronynnau mân, yn amrywio o faint gronyn o dywod i ychydig ficrometrau. Fel arfer cynhyrchir mwynlif o'r felin ar ffurf slyri, sy'n gymysgedd o ronynnau mwynol mân a dŵr.

Hen fwyngloddiau golygu

Mwynglawdd segur yw mwynglawdd neu chwarel nad yw'n cynhyrchu nac yn weithredol mwyach ac sydd heb gwmni cyfrifol i ariannu'r gost o fynd i'r afael ag adfer safle'r mwynglawdd. Mae'r term yn ymgorffori pob math o hen fwyngloddiau, gan gynnwys cloddfeydd siafftiau tanddaearol a mwyngloddiau drifft, ogofau, a mwyngloddiau arwyneb. Yn nodweddiadol, y cyhoedd, y trethdalwy neu'r llywodraeth sy'n talu'r gost o fynd i'r afael â'r gwaith.[14][15][16][17]

Polisi rhyngwladol golygu

Confensiwn Stockholm ar Lygryddion Organig Parhaus yw un o'r prif fecanweithiau rhyngwladol ar gyfer dileu llygryddion organig parhaus etifeddol megis PCBs. [5]

Cyfeiriadau golygu

  1. dksackett (2018-01-22). "Legacy pollution, an unfortunate inheritance". The Fisheries Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-10.
  2. Technology, International Environmental. "What Is Legacy Pollution?". Envirotech Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-10.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Primer - Legacy Pollutants | Poisoned Waters | FRONTLINE | PBS". www.pbs.org. Cyrchwyd 2023-03-10.
  4. 4.0 4.1 4.2 Khwaja, Mahmood A. (2020-11-12). "Toxic Legacy Pollution: Safeguarding Public Health and Environment from Industrial Wastes" (yn English). Sustainable Development Policy Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-23. Cyrchwyd 2023-05-12.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. 5.0 5.1 Environment, U. N. (2017-09-13). "PCBs a forgotten legacy?". UNEP - UN Environment Programme (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-10.
  6. 6.0 6.1 Sanchez, Heather K.; Adams, Alison E.; Shriver, Thomas E. (2017-03-04). "Confronting Power and Environmental Injustice: Legacy Pollution and the Timber Industry in Southern Mississippi". Society & Natural Resources 30 (3): 347–361. doi:10.1080/08941920.2016.1264034. ISSN 0894-1920. https://doi.org/10.1080/08941920.2016.1264034.
  7. D., Bullard, Robert (2008). The quest for environmental justice : human rights and the politics of pollution. Sierra Club Books. ISBN 978-1-57805-120-5. OCLC 780807668.
  8. Dermatas, Dimitris (May 2017). "Waste management and research and the sustainable development goals: Focus on soil and groundwater pollution". Waste Management & Research: The Journal for a Sustainable Circular Economy 35 (5): 453–455. doi:10.1177/0734242x17706474. ISSN 0734-242X. PMID 28462675. http://dx.doi.org/10.1177/0734242x17706474.
  9. "Glossary of Brownfields Terms". Brownfields Center. Washington, D.C.: Environmental Law Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 26, 2015.
  10. 10.0 10.1 10.2 Jacek, Guillaume; Rozan, Anne; Desrousseaux, Maylis; Combroux, Isabelle (2021-05-18). "Brownfields over the years: from definition to sustainable reuse" (yn en). Environmental Reviews 30: 50–60. doi:10.1139/er-2021-0017. https://cdnsciencepub.com/doi/10.1139/er-2021-0017.
  11. Loures, Luis; Vaz, Eric (2018-02-01). "Exploring expert perception towards brownfield redevelopment benefits according to their typology" (yn en). Habitat International. Regional Intelligence: A new kind of GIScience 72: 66–76. doi:10.1016/j.habitatint.2016.11.003. ISSN 0197-3975. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0197397516309031.
  12. Tang, Yu-Ting; Nathanail, C. Paul (3 May 2012). "Sticks and Stones: The Impact of the Definitions of Brownfield in Policies on Socio-Economic Sustainability" (yn en). Sustainability 4 (5): 840–862. doi:10.3390/su4050840. ISSN 2071-1050.
  13. Alker, Sandra; Joy, Victoria; Roberts, Peter; Smith, Nathan (2000-01-01). "The Definition of Brownfield". Journal of Environmental Planning and Management 43 (1): 49–69. doi:10.1080/09640560010766. ISSN 0964-0568. https://doi.org/10.1080/09640560010766.
  14. "ABANDONED HARDROCK MINES Information on Number of Mines, Expenditures, and Factors That Limit Efforts to Address Hazards GAO 20-238" (PDF). GAO.gov. March 2020. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2021-03-18.
  15. Joseph F., Castrilli (2007). "Wanted: A Legal Regime to Clean Up Orphaned /Abandoned Mines in Canada" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2020-08-02.
  16. "Managing Australia's 50,000 abandoned mines". www.mining-technology.com (yn Saesneg). 12 April 2015. Cyrchwyd 2021-12-13.
  17. "With its mining boom past, Australia deals with the job of cleaning up". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2020-08-20. Cyrchwyd 2021-12-13.