Atriplex hortensis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Amaranthaceae
Is-deulu: Chenopodioideae
Genws: Atriplex
Rhywogaeth: A. hortensis
Enw deuenwol
Atriplex hortensis,[1]
L.
Cyfystyron

Atriplex acuminata

Planhigyn blodeuol yw Llygwyn yr ardd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Atriplex. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Atriplex hortensis a'r enw Saesneg yw Garden orache.

Mae'n flodyn unflwydd caled. Nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach). Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog. Mae ei uchder yn amrywio: rhwng dwy i chwe troedfedd, yn ddibynnol ar ansawdd y pridd.

Mewn salad golygu

Gellir bwyta'r dail sy'n blasu'n hallt, yn debyg i sbigoglys. Fel arfer fe'u hychwanegir mewn salad neu weithiau wedi'u berwi. Arferid ei dyfu yng ngwledydd y Môr Canoldir ers canrifoedd, ond aeth allan o ffasiwn wrth i sbidoglys ennill ei blwyf. Mae'r dail i'w cael mewn sawl lliw: gwyn, coch neu wyrdd. Defnyddiwyd y dail gwyrdd am flynyddoedd i liwio pasta.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Taxon: Atriplex hortensis L." Germplasm Resources Information Network (GRIN). United States Department of Agriculture, Agricultural Research Service, Beltsville Area. Cyrchwyd 2008-03-23.
  2. Davidson, Alan (1999): Orach. In: Oxford Companion to Food: 556. ISBN 0-19-211579-0
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: