Llyn Alaw
llyn yng Nghymru
Mae Llyn Alaw yn gronfa ddŵr ar Ynys Môn, yng ngogledd Cymru. Mae'n cyflenwi dŵr i ran ogleddol yr ynys. Saif yng nghymunedau Tref Alaw a Rhosybol.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3528°N 4.4139°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Cafodd yr enw 'Llyn Alaw' am fod yr alaw (lili'r dŵr) yn tyfu yno.[1]
Ffurfiwyd y llyn trwy adeiladu argae ar draws Afon Alaw, ond nid oes unrhyw afonydd mawr yn llifo i mewn i'r llyn. Mae'r ardal o'i gwmpas yn amaethyddol.
Mae Llyn Alaw o bwysigrwydd fel gwarchodfa adar, gyda dwy guddfan o amgylch y llyn, ac mae hefyd yn fan boblogaidd i bysgota.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).